Wicipedia:Tiwtorial (Nodi ffynonellau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dylid osgoi rhoi cyfeiriad heb ddisgrifiad o ddolen allanol (gweler'Link rot') |
sgwennu bras |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Y ffordd arferol o greu dyfyniad mewnol yw trwy ddefnyddio troednodiadau. Gallwch greu troednodiadau gydag '''iaith marcio Wici''' drwy ychwanegu tagiau cyfeirio mewn côd Wici: |
Y ffordd arferol o greu dyfyniad mewnol yw trwy ddefnyddio troednodiadau. Gallwch greu troednodiadau gydag '''iaith marcio Wici''' drwy ychwanegu tagiau cyfeirio mewn côd Wici: |
||
# '''<nowiki><ref></nowiki>''' EICH FFYNHONNELL e.e. Gwefan y BBC '''<nowiki></ref></nowiki>''' o amgylch eich ffynhonnell; |
# '''<nowiki><ref></nowiki>''' EICH FFYNHONNELL e.e. Gwefan y BBC '''<nowiki></ref></nowiki>''' o amgylch eich ffynhonnell; |
||
# '''<nowiki>{{Cyfeiriadau}} |
# '''<nowiki>{{Cyfeiriadau}}</nowiki>''' o dan y pennawd '''<nowiki>==Cyfeiriadau==</nowiki>''' yn agos i waelod y dudalen. |
||
Mae dwy ran felly i hyn: y cyntaf ydy gosod y wybodaeth yn nghorff yr erthygl ei hun (er na fydd yn ymddangos yno) a'r ail ydy gosod côd ar waelod y dudalen, sy'n arddangos yr wybodaeth yn otomatig fel troednodyn. |
Mae dwy ran felly i hyn: y cyntaf ydy gosod y wybodaeth yn nghorff yr erthygl ei hun (er na fydd yn ymddangos yno) a'r ail ydy gosod côd ar waelod y dudalen, sy'n arddangos yr wybodaeth yn otomatig fel troednodyn. |
Fersiwn yn ôl 06:16, 21 Mawrth 2013
Blwch cymorth:
Mynegai: Tiwtorial · Canllaw Pum Munud · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs · Gofynwch Gwestiwn · Geirfa · Y Ddesg Gymorth · Chwilio'r holl Pynciau |
Cyflwyniad | Golygu | Chwilio | Dolennau | Ffynonellau | Mewngofnodi | Sgwrs | Ymestynol | Arall |
Pan fyddwch yn ychwanegu gwybodaeth at erthygl, sicrhewch eich bod yn cynnwys eich ffynonellau, oherwydd fe ddilëir ffeithiau neu erthyglau gydag elfennau dadleuol heb ffynonellau. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio dyfyniad mewnol er mwyn i olygwyr a darllenwyr eraill fedru gwirio'r wybodaeth rydych yn ei hychwanegu. Sicrhewch fod y ffynonellau a ddefnyddiwch yn ddibynadwy ac yn rhai y gellir ymddiried ynddynt. Mae gwneud hyn yn un o gonglfeini credinedd Wicipedia ac yn sicrhau, o'i wneud yn gywir, y bydd eich golygiad yn parhau.
Troednodiadau
Y ffordd arferol o greu dyfyniad mewnol yw trwy ddefnyddio troednodiadau. Gallwch greu troednodiadau gydag iaith marcio Wici drwy ychwanegu tagiau cyfeirio mewn côd Wici:
- <ref> EICH FFYNHONNELL e.e. Gwefan y BBC </ref> o amgylch eich ffynhonnell;
- {{Cyfeiriadau}} o dan y pennawd ==Cyfeiriadau== yn agos i waelod y dudalen.
Mae dwy ran felly i hyn: y cyntaf ydy gosod y wybodaeth yn nghorff yr erthygl ei hun (er na fydd yn ymddangos yno) a'r ail ydy gosod côd ar waelod y dudalen, sy'n arddangos yr wybodaeth yn otomatig fel troednodyn.
Os mai gwefan yw eich ffynhonnell, dylech greu dolen allanol i gyfeiriad y wefan. Peidiwch â defnyddio erthyglau eraill o Wicipedia fel ffynonellau; mae hyn yn rheol.
Er mwyn creu dolen allanol i'ch ffynhonnell, rhowch gyfeiriad y wefan (yr URL) mewn cromfachau sgwâr cyn y testun a fyddwch yn ychwanegu, megis
- <ref>[http://www.google.com Peiriant chwilio Google]</ref>
Dylid darparu disgrifiad byr ar ôl cyfeiriad y ddolen allanol. Bydd y disgrifiad hwn yn ymddangos yn y rhestr o gyfeiriadau fel teitl y ddolen allanol.
Yr adran dolenni allanol
Mae gan nifer o erthyglau Wicipedia adran ar wahân o'r enw Dolenni allanol, tua gwaelod y ddalen. Ar gyfer cysylltu â gwefannau sydd â gwybodaeth ychwanegol, sylweddol a dibynadwy am bwnc yr erthygl mae'r adran hon. Nid yw pob un ddolen allanol yn addas i'w defnyddio mewn erthygl ar Wicipedia.
Trwy gynnwys bwlch ar ôl URL ac o fewn set unigol o gromfachau, gallwch benderfynu ar y testun a fydd yn weledol, er enghraifft:
- [http://www.google.com Peiriant chwilio Google]
Dim ond y testun sy'n dilyn y bwlch sy'n weledol, ond bydd yn cadw'r ddolen a welir fan hyn o hyd:
Yr adran Llyfryddiaeth
Weithiau, pan ddyfynir o nifer o lyfrau, gellir defnyddio'r term "Llyfryddiaeth" fel is-bennawd, ynghyd â rhestr o lyfrau a gyfeirir atynt yng ngorff yr erthygl.
Rhoi Nodion ar erthyglau
Os dowch o hyd i erthygl sydd a pheth gwybodaeth dadleuol ynddi, rhowch y Nodyn hwn ar frig y dudalen:
{{angen ffynhonnell}}
Mae hyn yn rhestru'r tudalennau sydd angen gwaith arnynt mew un man taclus. Mae Nodyn yn gôd Wici arbennig sy'n galw am wybodaeth o lefydd eraill, fel arfer, neu'n galw tudalen gyfan i'r man lle caiff y Nodyn ei gosod.