Siân James (cantores): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎ffynhonnellau: man gywiriadau, replaced: Ffynonell → ffynhonnell using AWB
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7533471 (translate me)
Llinell 54: Llinell 54:
[[Categori:Cerddoriaeth Geltaidd]]
[[Categori:Cerddoriaeth Geltaidd]]
[[Categori:Telynorion Cymreig]]
[[Categori:Telynorion Cymreig]]

[[en:Siân James (musician)]]

Fersiwn yn ôl 01:24, 21 Mawrth 2013

Siân James

Cantores a cherddor o Gymru ydy Siân James (ganwyd 1962 yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn).

Cymerodd ran mewn Eisteddfodau o oedran cynnar, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach, y telyn. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion lle dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun, cyn mynd ymlaen i astudio cerdd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Enillodd hefyd gymhwyster dysgu.[1]

Bu'n aelod o'r grŵp Bwchadanas cyn dechrau creu cerddoriaeth yn unigol.[2] Rhyddhaodd bedwar albym ar label Sain cyn cael ei chomisiynu gan BBC 2 i gyfansoddi cerddoriaeth i gyd-fynd gyda cyfres Birdman a oedd yn dilyn gwaith swyddog RSPB, Iolo Williams. Roedd y BBC mor hoff o'r caneuon, penderfynwyd eu rhyddhau fel crynoddisg. Erbyn hyn mae James yn rhyddhau recordiau ar ei label ei hun, Recordiau Bos, ac yn recordio o'i stiwdio bach yn ei chartref yn Llanerfyl.

Sian James a Gwyn Jones yng Ngŵyl Tegeingl, 2012.

Ymysg y cerddorion a fu'n gweithio gyda hi ar ei halbymau oedd Tich Gwilym.

Bu James hefyd yn actio yn ffilm S4C, Tylluan Wen, ac mewn chyfresi megis Iechyd Da. Bu ganddi gyfres ei hun am gyfnod, sef Siân, darlledwyd pump rhaglen.[2] Ar y rhaglenni bu'n gwahodd artistiad gwerin rhyngwladol i gymryd rhan, megis The Saw Doctors a Capercaillie.[1]

Mae hefyd yn arweinydd côr 'Parti Cut Lloi' yn Sir Drefaldwyn.[1]

Disgograffi

Clawr yr Albwm Di-Gwsg

ffynhonnellau

  1. 1.0 1.1 1.2 Proffil ar wefan BBC Cymru
  2. 2.0 2.1 Bywgraffiad ar wefan Sain