Grŵp Lleol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 13: Llinell 13:


[[Categori:Grŵp Lleol| ]]
[[Categori:Grŵp Lleol| ]]
[[Categori:Seryddiaeth]]
[[Categori:Clystyrau galaethau]]


[[en:Local Group]]
[[en:Local Group]]

Fersiwn yn ôl 22:32, 15 Mai 2007

Galaeth Sextans A yn y Grŵp Lleol trwy fater rhyngserol y Llwybr Llaethog

Y Grŵp Lleol yw ein galaeth ni (y Llwybr Llaethog) a'r galaethau a chlystyrau sêr agosaf iddo. Ar wahân i'r Llwybr Llaethog y prif wrthrychau yw'r galaethau Andromeda a Triangulum. Mae'r grŵp yn cynnwys dros 30 galaeth, gyda'i chanol digyrchiant yn gorwedd rhwng y Llwybr Llaethog ac Andromeda. Mae ganddo dryfesur o dros 10 miliwn blwyddyn goleu a siâp dymbel dwbl. Amcangyfrifir fod ei fás yn (1.29 ± 0.14)×1012M☉. Er mor anferth yw hynny, mae'r grŵp ei hun yn un o nifer o fewn yr Uwch Glystwr Virgo (ein Uwch Glystwr Lleol).

Aelodau mwyaf y grŵp yw'r Llwybr Llaethog a Galaeth Andromeda. Galaethau troellog bariedig ydynt, gyda'i galaethau lleol eu hunain yn cylchdroi o'u cwmpas.

Mae system lleol y Llwybr Llaethog yn cynnwys Sag DEG, y Cwmwl Magellanig Mawr, y Cwml Magellanig Bach, Canis Major Corrach, Ursa Minor Corrach, Draco Corrach, Carina Corrach, Sextans Corrach, Sculptor Corrach, Fornax Corrach, Leo I, Leo II, Tucana Corrach, ac Ursa Major Corrach.

Mae system Andromeda yn cynnwys M32, M110, NGC 147, NGC 185, And I, And II, And III, And IV, And V, Pegasus dSph, Cassiopeia Corrach, And VIII, And IX, ac And X.

Gallai Galaeth Triangulum, y trydydd mwyaf a'r unig galaeth troellog rheolaeth yn y Grŵp Lleol, fod yn gydymaith i alaeth Andromeda neu beidio, ond yn ôl pob tebyg mae ganddo Pisces Corrach fel galaeth lloeren. Mae aelodau eraill y grŵp lleol yn bodoli ar wahân mewn termau disgyrchiant i'r tri is-grŵp mawr hyn.

Galaethau'r Grŵp Lleol