Sefydliad Masnach y Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 96 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7825 (translate me) |
→Dolenni allanol: man gywiriadau using AWB |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
{{comin|Category:World Trade Organization|Cyfundrefn Masnach y Byd}} |
{{comin|Category:World Trade Organization|Cyfundrefn Masnach y Byd}} |
||
* [http://www.wto.org/indexfr.htm Gwefan swyddogol CMB] |
* [http://www.wto.org/indexfr.htm Gwefan swyddogol CMB] |
||
⚫ | |||
[[Categori:Sefydliadau rhyngwladol]] |
[[Categori:Sefydliadau rhyngwladol]] |
||
Llinell 17: | Llinell 19: | ||
[[Categori:Masnach]] |
[[Categori:Masnach]] |
||
[[Categori:Sefydliadau 1995]] |
[[Categori:Sefydliadau 1995]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 19:02, 17 Mawrth 2013
Cyfundrefn ryngwladol yw Cyfundrefn Masnach y Byd neu CMB (Ffrangeg: Organisation mondiale du commerce, OMC; Saesneg: World Trade Organization, WTO; Sbaeneg: Organización Mundial del Comercio, OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli masnach ryngwladol rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb CMB a drafodwyd ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym Marrakech, Moroco gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu seneddau. Bwriad swyddogol CMB yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i fasnach. Yn 2009 roedd gan y gyfundrefn gyllid o 189 miliwn Ffranc y Swistir a 153 aelod-wladwriaeth: Cabo Verde yw'r aelod diweddaraf.[1] Nid yw Rwsia, Iran a rhan helaeth y byd Arabaidd yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.
Er 2001, mae CMB yn dilyn cyfarwyddiadau 'Cylch Doha', a gytunwyd yn Doha, prifddinas Qatar. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y Cenhedloedd Unedig, mae gan CMB gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir prifgadlys CMB yn ninas Genefa, Y Swistir. Ar 26 Mai 2005, daeth y Ffrancwr Pascal Lamy yn Gyfarwyddwr Cyffredinol CMB, gan olynu'r gŵr Thai Supachai Panitchpakdi. Adnewyddwyd ei benodiad yn Ebrill 2009 am dymor o bedair blynedd arall.
Ers diwedd y 1990au, mae CMB dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu globaleiddio'r economi ryngwladol" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau CMB wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.