Tsieceg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 133 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q9056 (translate me) |
|||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
Mae'r gair ''čeština'' "Tsiec" (neu "Czech") yn tarddu o hen lwyth Slafig o'r un enw (''Čech'', lluosog ''Češi''; hen ffurf: ''Čechové'') a arferai fyw yng ngahanol Bohemia ac a oedd yn gyfrifol am uno ei chymdogion Slafaidd ac Almaenig yn nheyrnasiad y brenhinllyn (''Přemyslovci''). Yn ôl rhai, mae'n tarddu o berson o'r enw Čech, a fu'n gyfrifol am symud y llwyth i'r tiroedd presenol. Daw'r gair Bohemia o lwyth Celtaidd y [[Boii]] a wladychai'r rhan hon o [[Ewrop]] cyn hyn - ers y 4edd ganrif CC. Benthyciwyd y sillafiad Saesneg |

||
("Czeck") o'r [[Pwyleg]]. |
("Czeck") o'r [[Pwyleg]]. |
||
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}} |
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}} |
Fersiwn yn ôl 18:58, 17 Mawrth 2013
Tsieceg (čeština) | |
---|---|
Siaredir yn: | Y Weriniaeth Tsiec, fel iaith leiafrifol yn Unol Daleithiau America, Canada, Awstria, Yr Almaen, Croatia a'r Wcráin |
Parth: | Dwyrain Ewrop |
Cyfanswm o siaradwyr: | 12 miliwn |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 66 |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Balto-Slafig Slafig Gorllewinol Tsieceg-Slofaceg Tseiceg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Y Weriniaeth Tsiec, Yr Undeb Ewropeaidd |
Rheolir gan: | Athrofa'r Iaith Tsieceg |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | cs |
ISO 639-2 | cze |
ISO 639-3 | ces |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Slafig Orllewinol sy'n iaith frodorol y Weriniaeth Tsiec yw Tsieceg a gaiff ei siarad ledled y byd. Galwyd yr hen Tsieceg yn Fohemeg hyd at y 19eg ganrif. Mae'n hynod o debyg i'r Slofaceg ac i raddau llai i ieithoedd Slafeg eraill.
Statws swyddogol
Caiff y Tsieceg ei siarad gan bron i bawb o drigolion y Weriniaeth Tsiec a chaiff ei defnyddio mewn dogfennau llysoedd barn ac awdurdodau'r wladwriaeth, gan gynnwys awdurdodau cyllid ac arian. Caiff hefyd ei defnyddio mewn achosion swyddogol yn Slofacia; yn yr un modd caniateir defnyddio'r Slofaceg oddi fewn i awdurdodau ariannol y Weriniaeth Tsiec. Mae yma gryn blethu rhwng y ddwy wladwriaeth o ran ieithoedd - sy'n deillio'n ôl i'r hen Tsiecoislofacia a chyn hynny. Mae trigolion y ddwy wladwriaeth yn deall iaith ei gilydd.
Yr enw
Mae'r gair čeština "Tsiec" (neu "Czech") yn tarddu o hen lwyth Slafig o'r un enw (Čech, lluosog Češi; hen ffurf: Čechové) a arferai fyw yng ngahanol Bohemia ac a oedd yn gyfrifol am uno ei chymdogion Slafaidd ac Almaenig yn nheyrnasiad y brenhinllyn (Přemyslovci). Yn ôl rhai, mae'n tarddu o berson o'r enw Čech, a fu'n gyfrifol am symud y llwyth i'r tiroedd presenol. Daw'r gair Bohemia o lwyth Celtaidd y Boii a wladychai'r rhan hon o Ewrop cyn hyn - ers y 4edd ganrif CC. Benthyciwyd y sillafiad Saesneg ("Czeck") o'r Pwyleg.