Hunan leddfu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
addasu |
→Gwrywaidd: man gywiriadau using AWB |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
{{Rhyw}} |
{{Rhyw}} |
||
{{eginyn rhyw}} |
{{eginyn rhyw}} |
||
⚫ | |||
[[Categori:Rhyw]] |
[[Categori:Rhyw]] |
||
[[Categori:Bywyd personol]] |
[[Categori:Bywyd personol]] |
||
[[Categori:Ymddygiad]] |
[[Categori:Ymddygiad]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 17:03, 17 Mawrth 2013
Halio (neu'n ar lafar: wancio; hefyd cilddyrnu neu mwdwlwasgu) yw'r weithred o gyffroi'r organau rhywiol, fel arfer i bwynt orgasm a hynny gan y person ei hun neu arall. Mae'n rhan o set ehangach o weithredoedd a adnabyddir fel awtoserchyddiaeth, sydd hefyd yn cynnwys defnyddio tegannau rhyw a symbylu an-genhedlol. Mae yna hefyd beiriannau halio sy'n cael eu defnyddio i efelychu cyfathrach rywiol er mwyn pleser. Pan fo'r weithred hwn yn digwydd gan fwy nag un person fe ddywedir eu bônt yn cyd-halio (Saesneg: Mutual masturbation).
Hunan leddfu a chyfathrach rywiol yw'r arferion rhywiol mwyaf cyffredin, ond nid ydynt yn cyd-anghynhwysol (er enghraifft, mae nifer o bobl yn gweld golwg eu partner yn hunan leddfu yn hynod o nwydol). Gall rhai bobl gyrraedd orgasm dim ond drwy hunan leddfu. Yn nheyrnas yr anifeiliaid, mae hunan leddfu i'w weld mewn sawl rhywogaeth mamal, yn yr anial ac mewn caethiwed.
Benywaidd
Prif organ rhywiol benywaidd yw'r clitoris, ac mae rhan o hunan leddfu benywaidd ynymwneud â chosi neu rwbio'r clitoris fel arfer. Mae rhai merched yn rhoi cala goeg mewn eu gweiniau, neu'n defnyddio eu bysedd i greu'r pleser hwn.
Gwrywaidd
Mae bechgyn yn gafael yn eu codiad ac yn ei rwbio er mwyn cael yr un effaith.
|
[[en: