Pepin Fychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 62 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q81212 (translate me) |
B Yn gosod File:Pépin_the_younger.jpg yn lle Pippin_the_younger.jpg (gan Morning Sunshine achos: File renamed: File renaming criterion #3: Correct misleading names into ... |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Pépin_the_younger.jpg|thumb|right|Pepin Fychan]] |
||
Roedd '''Pepin Fychan''', weithiau '''Pepin III''', hefyd '''Pippin''', yn frenin y [[Ffranciaid]] o [[751]] hyd [[768]]. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad [[Siarlymaen]]. |
Roedd '''Pepin Fychan''', weithiau '''Pepin III''', hefyd '''Pippin''', yn frenin y [[Ffranciaid]] o [[751]] hyd [[768]]. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad [[Siarlymaen]]. |
Fersiwn yn ôl 10:43, 17 Mawrth 2013
Roedd Pepin Fychan, weithiau Pepin III, hefyd Pippin, yn frenin y Ffranciaid o 751 hyd 768. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad Siarlymaen.
Ganed Pepin yn 714 yn Jupille, gerllaw Liège, yn fab i Siarl Martel a Rotrude o Treves). Roedd Siarl Martel wedi uno teyrnasoedd y Ffranciaid, ac fel Maer y Plas, ef oedd y gwir reolwr, nid y brenin. Ar farwolaeth Siarl Martel yn 741, rhannwyd ei diriogaethau rhwng ei ddau fab cyfreithlon; gyda Carloman yn rheoli fel Maer y Plas yn Neustria a Pepin fel Maer y Plas yn Austrasia. Yn 747 ymddiswyddodd Carloman ac aeth i fynachlog, gan adael Pepin yn unig reolwr.
Gyda chydsyniad y Pab, diorseddodd Pepin y brenin Childeric III, yr olaf o linach y Merofingiaid, a chyhoeddodd ei hun yn frenin y Ffranciaid, y brenin Carolingaidd cyntaf. Gorchfygodd y Lombardiaid ac yn 759 cipiodd Narbonne, gan yrru'r Saraseniaid o Gâl. Bu farw yn Saint Denis yn 768.