Robat Arwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
refs |
B cat |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
{{DEFAULTSORT:Arwyn, Robat}} |
|||
[[Categori:Arweinyddion]] |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
{{eginyn Cymry}} |
{{eginyn Cymry}} |
||
⚫ | |||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 19:19, 15 Mawrth 2013
Cyfansoddwr a anwyd yn Nhalysarn, Gwynedd, ond sy'n byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych ers oddeutu 1981.
Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1980 a chafodd Ddiploma mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth yn 1981.
Gyda'r prifardd Robin Llwyd ab Owain cyfansoddodd y gerddoriaeth i ganeuon megis: 'Gwin Beaujolais', 'Pedair Oed' a 'Brenin y Ser'. Bu Arwyn hefyd yn flaenllaw iawn gyda'r grwp gwerin Trisgell yn yr 80au a Chôr Ieuenctid Rhuthun (yna 'Côr Rhuthun). Yn Ionawr 2008 cafodd ei benodi'n arweinydd swyddogol y côr. Mae ganddo ddau o blant.[1]
Yn 2009 rhyddhawyd CD gan dri offeiriad Pabyddol o Iwerddon ar label Sony. Roedd y caneuon yn cynnwys Benedictus gan Robat Arwyn.
Llyfrau
Mae'r cyfansoddwr wedi cyhoeddi oddeutu deg o gasgliadau o ganeuon, gan gynnwys Atgof o'r Sêr (Curiad), Er Hwylio'r Haul (Curiad), Er Mwyn Yfory (Y Lolfa) a Gwin Beaujolais (Y Lolfa). [2]