Llangelynnin, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RHaworth (sgwrs | cyfraniadau)
use Commons image
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6661460 (translate me)
Llinell 15: Llinell 15:
[[Categori:Hanes Conwy]]
[[Categori:Hanes Conwy]]
[[Categori:Plwyfi Cymru]]
[[Categori:Plwyfi Cymru]]

[[en:Llangelynnin]]

Fersiwn yn ôl 09:15, 14 Mawrth 2013

Hen eglwys Sant Celynnin

Cyn-blwyf yn sir Conwy yw Llangelynnin, hefyd weithiau Llangelynnin. Ceir ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig yma, ond yr adeilad mwyaf nodedig yw hen eglwys Llangelynnin.

Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben Dyffryn Conwy, ychydig i'r de-orllewin o Henryd. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn dyddio o'r 6ed ganrif. Credir y gall rhannau o'r eglwys bresennol ddyddio o'r 12fed ganrif, ac mae rhannau healaeth ohoni o'r 14eg ganrif. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y 15fed ganrif.

Defnyddid yr hen eglwys yn gyson hyd 1840, pan adeiladwyd eglwys newydd yn is i lawr, gerllaw y Groes Inn ar y ffordd B5106. Mae'r eglwys newydd wedi cau bellach, ond mae ambell i wasanaeth yn cael ei gynnal yn yr hen egllwys yn yr haf. Yn y fynwent mae ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin. Ceir hefyd weddillion stabl gerllaw. Ceir nifer o olion o gyfnod cynharach yn yr ardal hefyd, a hen draciau yn arwain i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen.

Llyfryddiaeth

  • H. Harold Hughes & Herbert L. North The old churches of Snowdonia (Bangor, Jarvis & Foster, 1924)