Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: ko:속라틴어
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 43 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q37560 (translate me)
Llinell 98: Llinell 98:
[[Categori:Lladin|Llafar]]
[[Categori:Lladin|Llafar]]
[[Categori:Ieithoedd Romáwns]]
[[Categori:Ieithoedd Romáwns]]

[[af:Vulgêrlatyn]]
[[als:Vulgärlatein]]
[[an:Latín vulgar]]
[[bg:Простонароден латински език]]
[[bs:Latina vulgata]]
[[ca:Llatí vulgar]]
[[cs:Vulgární latina]]
[[da:Vulgærlatin]]
[[de:Vulgärlatein]]
[[el:Λαϊκή Λατινική γλώσσα]]
[[en:Vulgar Latin]]
[[eo:Vulgara latina]]
[[es:Latín vulgar]]
[[eu:Latin arrunt]]
[[fr:Latin vulgaire]]
[[gl:Latín vulgar]]
[[he:לטינית וולגרית]]
[[hr:Vulgarni latinski jezik]]
[[hu:Vulgáris latin]]
[[ia:Latino vulgar]]
[[id:Bahasa Latin Rakyat]]
[[it:Latino volgare]]
[[ja:俗ラテン語]]
[[ko:속라틴어]]
[[la:Sermo vulgaris Latinus]]
[[li:Vulgair Latien]]
[[nl:Vulgair Latijn]]
[[no:Vulgærlatin]]
[[pap:Latin Vulgar]]
[[pl:Łacina ludowa]]
[[pms:Latin volgar]]
[[pt:Latim vulgar]]
[[ro:Latina vulgară]]
[[ru:Народная латынь]]
[[sh:Vulgarni latinski jezik]]
[[simple:Vulgar Latin]]
[[sk:Ľudová latinčina]]
[[sl:Ljudska latinščina]]
[[sr:Вулгарни латински]]
[[sv:Vulgärlatin]]
[[tr:Halk Latincesi]]
[[uk:Народна латина]]
[[zh:通俗拉丁语]]

Fersiwn yn ôl 08:45, 14 Mawrth 2013

Lladin Llafar (yn Lladin, sermo vulgaris, "iaith y werin") oedd y tafodieithoedd o'r iaith Ladin a siaredid gan werin-bobl yr Ymerodraeth Rufeinig. Ymrannodd y tafodieithoedd yn yr Oesoedd Canol Cynnar gan ddatblygu i'r ieithoedd Romáwns erbyn y 6ed ganrif.

Roedd Lladin Llafar yn wahanol i Ladin Clasurol yn ei hynganiad, geirfa a gramadeg. Nid oedd Lladin Llafar yn iaith ysgrifenedig felly mae'n rhaid i ieithyddion droi at ddulliau anuniongyrchol o'i hastudio.

Hanes

Gan nad ysgrifennid iaith feunyddiol siaradwyr Lladin, gellir astudio Lladin Llafar drwy ddulliau anuniongyrchol yn unig. Daw gwybodaeth am Ladin Llafar o dair prif ffynhonnell: yn gyntaf mae’r dull cymharu sy’n ail-greu ffurfiau cynnar yr ieithoedd Romáwns, ac yn nodi lle wahaniaethent o Ladin Clasurol; yn ail, mae yna nifer o destunau gramadeg o’r cyfnod Lladin hwyr sy’n collfarnu’r “camgymeriadau” ieithyddol a wnaed gan siaradwyr Lladin sy’n rhoi syniad i ieithyddion o sut y siaredid Lladin gan y werin-bobl; yn drydydd, mae’r enghreifftiau o iaith ddi-glasurol a ddefnyddiwyd yn rhai testunau Lladin hwyr yn datgelu manylion am iaith lafar yr awdur. [1]

Am nifer o ganrifoedd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, parhaodd Lladin Llafar i gydfodoli gyda ffurf ysgrifennedig o Ladin hwyr, Lladin Canol, oblegid pan ysgrifennai ysgolheigion, ceisient ysgrifennu gyda gramadeg a sillafu “cywir” ac felly efelychent arferion Lladin Clasurol. Defnyddiid ffurf “rewadwy” yr iaith Ladin fel iaith ysgolheictod drwy gydol y Canol Oesoedd hyd y Dadeni.

Datblygodd Lladin Llafar yn wahanol yng ngwahanol tirgiogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig, gan ddatblygu’n raddol i mewn i Ffrangeg, Catalaneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, a dwsinau o ieithoedd eraill. [2] Er taw Lladin oedd yr iaith swyddogol yn y ardaloedd hyn, fe siaredid Lladin Llafar gan y werin-bobl nes i’r ffurfiau lleol newydd ymrannu’n ddigonol o Ladin gan ddod i’r golwg fel ieithoedd ar wahân. Serch y gwahaniaeth cynyddol rhwng Lladin Llafar ac ysgrifennedig, nid oedd y tafodieithoedd yn annealladwy o’i gilydd nes yr 8fed ganrif.

Fe wyddwn fod y tafodieithoedd Lladin yn hollol annealladwy o’i gilydd erbyn y 9fed ganrif. Isod gweler llw o 842 a ysgrifennwyd yn Lladin hollol wahanol i'r iaith glasurol:

Pro Deo amur et pro christian poblo et nostro commun salvament, d'ist di in avant, in quant Deus savir et podir me dunat, si salvarai eo cist meon fradre Karlo et in ajudha et in cadhuna cosa, si cum om per dreit son fradra salvar dift, in o quid il me altresi fazet, et ab Ludher nul plaid numquam prindrai, qui, meon vol, cist meon fradre Karle in damno sit.

Gramadeg

Roedd gramadeg Lladin Llafar llawer yn fwy dadelfennol na Lladin Clasurol o ganlyniad i golledion ffonetig a erydodd batrymau ffurfdroi ymasiadol hynafol.

Colli'r cenedl niwtral

Disodlwyd tair cenedl ramadegol Lladin Clasurol gan system ddwy-genedl yn y rhan fwyaf o'r Ieithoedd Romáwns. Yn Lladin mae cenedl yn fater o ffurfdro, e.e mae yna wahanol patrymau gogwyddo a gyfeillechir gyda'r gwrywaidd, benywaidd a'r niwtral. Mae cenedl hefyd yn fater o gytundeb, e.e mae'n rhaid i ansoddeiriau gytuno gyda'r enwau yn ôl cenedl (yn ogystal â rhif a chyflwr).

Arweinodd colled y cytseiniaid olaf at ail-ddadansoddiad o'r system genedl. Er enghraifft yn Lladin Clasurol, gwahaniaethai'r terfyniadau -us ac -um rhwng y gwrywaidd a'r niwtral yn yr ail ogwyddiad; gyda'r -s a -m wedi diflannu, ymunodd y niwtral gyda'r gwrywaidd. Dyma broses sydd yn gyflawn yn yr ieithoedd Romáwns. Cafodd rhai enwau niwtral yn y lluosog fel gaudia, "llonder", eu hail-ddadansoddi fel enwau benywaidd unigol. Cafodd y rhan fwyaf o enwau niwtral eu hymrwymo i mewn i'r genedl wrywaidd oherwydd y newidiadau seiniol a wanhaodd ddiwedd geiriau.

Colli'r cyflyrau

Lladin Clasurol
Goddrychol: aqua
Gwrthrychol: aquam
Genidol: aquae
Derbynniol: aquae
Abladol: aquā
Lladin Llafar
Goddrcyhol: aqua
Gwrthrychol: aqua
Genidol: aque
Derbynniol: aque
Abladol: aqua

Oherwydd y newidiadau seiniol a ddigwyddai yn Lladin Llafar, fe ddeath yn galetach i gadw’r system o gyflyrau enwol. Oherwydd colled yr /m/ ar ddiwedd geiriau, colled yr hyd ffonemig llafariad, a’r æ yn newid o /ai/ i /ɛ/ , daeth y gogwyddiad cyntaf yn ddi-ddefnydd. Dengys y tabl ar y dde yr effaith a gafodd y newidiadau seiniol ar enwau'r gogwyddiad cyntaf. Oherwydd newiadau seiniol eraill tebyg a wanhaodd ddiwedd geiriau, fe gollwyd cyflyrau mewn grwpiau gogwyddo eraill hefyd gan symud morffoleg enwol Lladin o fod yn synthetig i ddadelfennol.

Fe ddiflannodd y cyflyrau yn raddol. Cadwai Hen Ffrangeg wahaniaeth rhwng y cyflwr goddrychol a’r cyflwr gwrthrychol (cas-sujet/cas-régime) a ddiflannodd yn y 12fed ganrif. Ceidw Rwmaneg gyflwr genidol a chyflwr derbynniol o hyd yn ogystal ag olion o gyflwr cyfarchol.

Fe farciwyd y gwahaniaeth rhwng ungiol a lluosog mewn dwy ffordd yn yr ieithoedd Romáwns. I ogledd a gorllewin y Llinell La Spezia-Rimini sy’n rhedeg drwy ogledd yr Eidal, fe wahaniaethwyd yr unigol o’r lluosog gan –s ar ddiwedd y gair, a oedd yn bresennol yn ffurfiau lluosog benywaidd a gwrywaidd yr hen gyflwr gwrthyrchol ym mhob dosbarth gogwyddiad. I dde a dwyrain y Llinell La Spezia-Rimini, fe farciwyd y gwahaniaeth gan newidiadau llafarol ar ddiwedd enwau, fel sy’n digwydd mewn Eidaleg a Rwmaneg fodern. Mae’r newidiadau llafarol yn cadw a chyffredinoli gwahaniaethau a farciwyd ar enwau lluosog yn y goddrychol yn y gogwyddiad cyntaf a’r ail ogwyddiad.

Lluosi arddodiaid

Wrth i’r cyflyrau wanhau yn Lladin, roedd yn rhaid i arddodiaid gael eu creu i osgoi amwysedd annerbyniol. Cafodd nifer o arddodiaid newydd eu hadeiladu gan roi hen arddodiaid at ei gilydd. Mae’r Ieithoedd Romáwns yn llawn geirynnau gramadegol a grëwyd fel hyn; Sbaeneg “donde”, “ble”, o’r Lladin "de" + "unde", neu’r Ffrangeg "dès", "ers", o’r Lladin "de" + "ex" . Daw "depués" yn Sbaeneg a "deopis" yn Bortiwgaleg o "de" + "ex" + "post". Mae rhai o’r cyfansoddion newydd hyn yn ymddangos mewn testunau llenyddol yn ystod yr Ymerodraeth Hwyr; mae Ffrangeg "dehors", Sbaeneg "de fuera" a Phortiwgaleg "de fora" ("tu fas") i gyd yn cynrychioli "de" + "foris", ac fe welwn Jerome yn ysgrifennu "stulti, nonne qui fecit, quod de foris est, etiam id, quod de intus est fecit?" yn y Beibl.

Tra gollai Lladin ei chyflyrau, dechreuodd arddodiaid lenwi’r bylchau. Er enghraifft yn Lladin Llafar, fe ddefnyddiid yr arddodiad "ad" gyda’r cyflwr gwrthrychol i wneud i fynny am y cyflwr derbynniol gwan:

Lladin Clasurol:

Marcus patrī librum dat. "Rhôdd Marcus lyfr i’w dad."

Lladin Llafar:

Marcus dat librum ad patrem. "Rhôdd Marcus lyfr i’w dad"

Weithiau, disodlwyd y cyflwr genidol gwan gyda’r arddodiad "de" gyda’r abladol:

Lladin Clasurol:

Marcus mihi librum patris dat. "Rhôdd Marcus lyfr ei dad imi"

Lladin Llafar:

Marcus mihi dat librum de patre. "Rhôdd Marcus lyfr ei dad imi"

Berfau

Effeithiwyd y ffurfiau berfol llawer yn llai gan y colledion ffonetig a erydodd y system o gyflyrau enwol; yn wir, ymddengys berfau Sbaeneg neu Bortiwgaleg (a nifer o ieithoedd Romáwns) yn debyg iawn i’w ffurfiau hynafol Lladin o hyd. Un rheswm am hyn oedd yr aceniad cryf a ddatblygodd yn Lladin Llafar a roddai bwyslais ar sillafau gwahanol yn y ffurfiau rhediedig. Felly, parhaodd y ffurfiau i esblygu’n ffonetig, ond ni erydodd y gwahaniaethau rhwng y ffurfiau rhediedig.

Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn amō ac amāmus. Yn Hen Ffrangeg achosodd yr A accenog ddipthong gan achosi (j’)aime ac (nous) amons. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoleiddio wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn Ffrangeg yw nous aimons) ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel je viens (dof) yn erbyn nous venons (down), a ddaeth o’r Lladin veniō a venīmus.

Crëwyd amser dyfodol newydd ar ferfau Lladin Llafar gan ddefnyddio berfau cyfnerthu. Oherwydd cyfuniad y /b/ a’r /w/, daeth ffurfiau’r dyfodol fel amabit, i swnio’n union fel y ffurfiau perffaith fel amauit, gan gyflwyno amwysedd annerbyniol. Ffurfiwyd dyfodol newydd gyda’r ferf cyfnerthu habere, *amare habeo, yn llythrennol "caru caf". Fe gyfangwyd y ffurf newydd hon gan droi’n olddodiad dyfodol yn yr ieithoedd Romáwns gorllewinol. Gweler enghreifftiau o "byddaf yn caru/cara i" yn yr ieithoedd modern:

  • Ffrangeg: j’aimerai (je + aimer + ai) < aimer [caru] + ai [caf]
  • Portiwgaleg: amarei (amar + [h]ei) < amar [caru] + hei [caf]
  • Sbaeneg a Chatalaneg: amaré (amar + [h]e) < amar [caru] + he [caf]
  • Eidaleg: amerò (amar + [h]o) < amare [caru] + ho [caf]

Ffurfiwyd modd amodol (a wahaniaethai o'r modd dibynnol traddodiadol) yn yr un ffordd (amhenodol + ffurf rhediedig o habere).

Geirfa

Cyfeiriadau

  1. Charles H. Grandgent, An Introduction to Vulgar Latin (Heath & Co., 1907)
  2. Ethologue Latin Family
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.