John Jones, Gellilyfdy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6242070 (translate me)
Llinell 17: Llinell 17:
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig]]
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint]]
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint]]

[[en:John Jones of Gellilyfdy]]

Fersiwn yn ôl 16:44, 11 Mawrth 2013

Copïydd llawysgrifau a hynafiaethydd Cymreig oedd John Jones, Gellilyfdy (tua 1585 — 1657/58).

Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf Ysgeifiog yn Sir y Fflint. Canodd y beirdd Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal farwnadau ar ôl ei daid, Siôn ap Wiliam, a feddai ar gasgliad o lawysgrifau yr oedd llawer ohonynt yn ymwneud ag ardal Dyffryn Clwyd. Etifeddwyd y casgliad gan ei fab, William Jones. Daeth ei fab yntau, John Jones, yn gyfarwydd â'r llawysgrifau hyn yn gynnar yn ei oes.

Roedd John Jones mewn anawsterau ariannol parhaus, ac fe'i carcharwyd am ddyled nifer o weithiau, o leiaf deirgwaith yng Ngharchar y Fflyd yn Llundain.

Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copïo llawysgrifau, ond gweithiai hefyd yng Nghaerdydd (1612) ac ym mhlasdai uchelwyr mewn sawl rhan o Gymru. Mae dros gant o'i lawysgrifau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac eraill yn Llyfrgell Dinas Caerdydd a'r Amgueddfa Brydeinig. Nodweddir y llawysgrifau hyn gan ei arddull unigryw a chain, ac addurnir y testun yn aml â lluniau bychain ac addurniadau eraill. Roedd ganddo gysylltiad agos â'r hynafiaethydd Robert Vaughan, ysgwïer Hengwrt, ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt (Llawysgrifau Peniarth yn ddiweddarach).

Yn llaw John Jones ceir yr unig destun o'r chwedl Ystoria Ysgan ab Asgo sydd ar glawr, a ysgrifenwyd ganddo ar 23 Rhagfyr 1608.[1]

Cyfeiriadau

  1. T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954), tt. 144-6.