Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3399915 (translate me)
Llinell 10: Llinell 10:
[[Categori:Plwyfi Cymru]]
[[Categori:Plwyfi Cymru]]
[[Categori:Daearyddiaeth Sir Ddinbych]]
[[Categori:Daearyddiaeth Sir Ddinbych]]

[[br:Llangar]]
[[en:Llangar]]

Fersiwn yn ôl 15:45, 11 Mawrth 2013

Eglwys Llangar

Plwyf eglwysig ym mro hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw Llangar. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd.

Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o Feirionnydd a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng nghwmwd Edeirnion.

Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi Llandrillo a Chorwen, gan godi i lethrau'r Berwyn i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o Bowys.

Canolfan y plwyf oedd y llan lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen yn Nyffryn Edeirnion, ar lan Afon Dyfrdwy. Bu'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Eifionydd yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten James Cook yn 1776-78.