Martin McGuinness: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 18 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q57689 (translate me)
Llinell 24: Llinell 24:
[[Categori:Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon]]
[[Categori:Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon]]
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]

[[br:Martin McGuinness]]
[[ca:Martin McGuinness]]
[[de:Martin McGuinness]]
[[en:Martin McGuinness]]
[[es:Martin McGuinness]]
[[eu:Martin McGuinness]]
[[fi:Martin McGuinness]]
[[fr:Martin McGuinness]]
[[ga:Máirtín Mag Aonghusa]]
[[hu:Martin McGuinness]]
[[it:Martin McGuinness]]
[[la:Martinus McGuinness]]
[[nl:Martin McGuinness]]
[[pl:Martin McGuinness]]
[[ru:Макгиннесс, Мартин]]
[[simple:Martin McGuinness]]
[[sv:Martin McGuinness]]
[[zh:马丁·麦吉尼斯]]

Fersiwn yn ôl 14:33, 11 Mawrth 2013

Martin McGuinness
Llun agos

James Martin Pacelli McGuinness, Gwyddeleg: Máirtín Mag Aonghusa[1] (ganed 23 Mai 1950) yw Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Ganed Martin McGuinness yn Derry. Mae'n Aelod Seneddol dros etholaeth Canolbarth Wlster, hen sedd Bernadette Devlin McAliskey, dros Sinn Féin, ond yn unol a pholisi ei blaid, nid yw'n cymeryd ei sedd yn San Steffan. Mae hefyd yn cynrychioli'r un etholaeth yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.

Gwleidydd gyda'r Sinn Féin ydyw a chyn arweinydd yr IRA[2]; mae bellach yn Aelod Seneddol dros Ganol Ulster, y sedd a ddaliwyd unwaith gan Bernadette Devlin McAliskey. Fel pob un o aelodau'r Sinn Féin mae McGuinness yn gwrthod llenwi ei sedd yn San Steffan. Mae hefyd yn aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon dros yr un etholaeth. Yn dilyn Cytundeb St Andrews rhwng y pleidiau yng Ngogledd Iwerddon, ac etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon yn 2007, daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog ar 8 Mai 2007. Bu'n gyfrifol am addysg yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1999 a 2002.

Gweithgareddau'r Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon

(Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon ydy'r Provisional IRA)

Ymunodd McGuinness â'r Fyddin Weriniaethol oddeutu 1970, yn ddim ond 20 oed. Erbyn Gwanwyn 1972, yn 21 oed, roedd yn ddirprwy arweinydd yr IRA yn Derry - a hynny dros gyfnod 'Bloody Sunday'.[3] Cafwyd datganiad yn ystod Ymchwiliad Savile mai McGuinness oedd "wedi darparu dyfeisiau ffrwydro yn ystod digwyddiad 'Bloody Sunday'" pan laddwyd 14 o brotestwyr gan filwyr Lloegr. Honodd Paddy Ward ei fod yn arweinydd y Fianna ar yr amser honno, sef adain ieuenctid yr IRA yn 1972. Mewn ymateb i'r honiadau hyn, dywedodd McGuinness fod yr honiadau'n "ffantasiau", a datganodd Gery O'Hara, cynghorydd gyda'r Sinn Féin, mai ef ac nid Ward oedd arweinydd y Fianna yr adeg honno.[4]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Ag cur Gaeilge ar ais i mbéal an phobail - Fórógra Shinn Féin do na Toghcháin Westminster — datganiad i'r wasg gan Sinn Féin Ebrill 2005.
  2. (Saesneg) BBC Profile BBC News]
  3. (Saesneg) McGuinness confirms IRA role BBC News website, 2 May 2001
  4. (Saesneg) [http://news.scotsman.com/topics.cfm?tid=628&id=1161662003 McGuinness yn cael ei enwi fel cyflenwr bomiau gan John Innes, The Scotsman, 21 Hydref 2003
Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.