Brynaich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 25 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q623751 (translate me)
Llinell 20: Llinell 20:
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
[[Categori:Eingl-Sacsoniaid]]
[[Categori:Eingl-Sacsoniaid]]

[[ar:برنيسيا]]
[[br:Bernikia]]
[[ca:Bernícia]]
[[da:Bernicia]]
[[de:Bernicia]]
[[en:Bernicia]]
[[eo:Bernicia]]
[[es:Reino de Bernicia]]
[[fr:Bernicie]]
[[fy:Keninkryk Bernicia]]
[[gl:Bernicia]]
[[got:𐌱𐌴𐍂𐌽𐌹𐌺𐌾𐌰]]
[[he:ממלכת ברניקיה]]
[[hr:Bernicija]]
[[it:Regno di Bernicia]]
[[la:Bernicia]]
[[lt:Bernicija]]
[[nl:Koninkrijk Bernicia]]
[[no:Bernicia]]
[[pl:Bernicja]]
[[pt:Bernícia]]
[[ru:Берниция]]
[[sh:Bernicija]]
[[sv:Bernicia]]
[[uk:Берніція]]

Fersiwn yn ôl 14:28, 11 Mawrth 2013

Map o'r ardal, gan gynnwys teyrnasoedd Brythoinig eraill
Castell Lindisfarne

Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Brynaich neu Bryneich (Cymraeg Canol, ceir amrywiadau trwy affeithiad yn cynnwys Byrnaich[1] a Bernech[2], Saesneg: Bernicia). Sefydlwyd y deyrnas cyn dyfodiad goresgynwyr megis yr Eingl yn y 6ed ganrif, a tharddiad yr enw cynharaf ar yr ardal, sef Bernacci, oedd 'y bwlch' a chredir i deyrnas Frythonig o'r enw yma fodoli yma am ganrifoedd.[3] Gwyddwn hyn gan y cyfeirir yn 'Marwnad Cunedda' at 'fyddin Gododdin a Brynaich', dau lwyth wedi'u huno i ymladd ym Mrwydr Catraeth.[angen ffynhonnell] Mae tarddiad enwau llefydd yr ardal hefyd yn profi i lwythi Celtaidd reoli'r ardal cyn y 6ed ganrif; enwau megis Yeavering, Dunbar, Doon Hill a Melrose.[4]

Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o Afon Forth i Afon Tees; mewn termau modern roedd yn cyfateb i Northumberland, Swydd Durham, Swydd Berwick a Dwyrain Lothian. Cyn sefydlu'r deyrnas Eingl, roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas Gododdin. Efallai mai ei phrifddinas oedd Bamburgh, a elwid yn Din Guardi yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut (Lindisfarne).

Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw Ida, a ddaeth i'r orsedd tua 547. Unodd ŵyr Ida, Æthelfrith, deyrnas Deifr a'i deyrnas ei hun tua 604 i osod sylfeini teyrnas Northumbria.

Bu Cadwallon yn frenin yma, oblegid ei berthynas i Cunedda tan iddo gael ei ladd gan Oswallt.[angen ffynhonnell]

Mae'r ardal yn bwysig am sawl rheswm, gan gynnwys Llyfr Lindisfarne a pherthynas Beda a'r ardal. Ymladdodd Urien Rheged yn erbyn Eingl yr ardal gan eu hymlid o'r tir mawr i Lindisfarne.[5]

Ymhell ar ôl i'r deyrnas hon ddod i ben, parhawyd i ddefnyddio'r gair Bryneich am y Saeson e.e. yng ngwaith y Gogynfeirdd.

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol I, tud. 340.
  2. Llyfr Celtic culture: a historical encyclopedia, Volumes 1-5 By John T. Koch
  3. Jackson, LHEB tud 701-705
  4. Alcock, Economy, Society and Warefare among Britons and Saxons; tud 221, 255-266; Hope-Taylor, Yeavering
  5. Historia Brittonum, 63