Griffith Jones, Llanddowror: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pjschem (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 17: Llinell 17:
*D. Ambrose Jones, ''Griffith Jones, Llanddowror'' ([[Hughes a'i Fab]], Wrecsam, 1923). 'Cyfres Arweinwyr Cymru' I. Arolwg cynhwysfawr o'i waith a'i fywyd.
*D. Ambrose Jones, ''Griffith Jones, Llanddowror'' ([[Hughes a'i Fab]], Wrecsam, 1923). 'Cyfres Arweinwyr Cymru' I. Arolwg cynhwysfawr o'i waith a'i fywyd.
*E. Wyn James, ‘Griffith Jones (1684–1761) of Llanddowror and His “Striking Experiment in Mass Religious Education” in Wales in the Eighteenth Century’, yn ''Volksbildung durch Lesestoffe im 18. und 19. Jahrhundert / Educating the People through Reading Material in the 18th and 19th Centuries'', gol. Reinhart Siegert (Bremen, Yr Almaen: Edition Lumière, 2012), 275-92. ISBN 978-3-943245-03-5.
*E. Wyn James, ‘Griffith Jones (1684–1761) of Llanddowror and His “Striking Experiment in Mass Religious Education” in Wales in the Eighteenth Century’, yn ''Volksbildung durch Lesestoffe im 18. und 19. Jahrhundert / Educating the People through Reading Material in the 18th and 19th Centuries'', gol. Reinhart Siegert (Bremen, Yr Almaen: Edition Lumière, 2012), 275-92. ISBN 978-3-943245-03-5.

==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


{{eginyn Cymry}}
{{eginyn Cymry}}

Fersiwn yn ôl 14:03, 11 Mawrth 2013

Gweler hefyd Griffith Jones (actor)

Griffith Jones

Griffith Jones (1683 – 1761), a adnabyddir gan amlaf fel Griffith Jones, Llanddowror, oedd sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig.

Brodor o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin a gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a'i ordeinio ym 1708. Ym 1716 cafodd reithoriaeth ym mhentref Llanddowror. Roedd yn aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.

Ym 1731 dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen at ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i fynychu'r ysgolion. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r Beibl Cymraeg a thrwy adrodd Catecism Eglwys Loegr. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan Bridget Bevan, merch y dyngarwr, John Vaughan (1633-1772) a'i chysylltiadau cefnog yn Llundain a Chaearfaddon. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, Welsh Piety; ynddynt y byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian. [1] Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf llythrennog y byd.

Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng Nghymru cyn hynny ers diddymu'r mynachlogydd.

Darllen pellach

  • Gwyn Davies, Griffith Jones, Llanddowror, Athro Cenedl (1984)
  • Geraint H. Jenkins, Hen filwr dros Grist (1983)
  • R. T. Jenkins, Griffith Jones, Llanddowror (1930)
  • D. Ambrose Jones, Griffith Jones, Llanddowror (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1923). 'Cyfres Arweinwyr Cymru' I. Arolwg cynhwysfawr o'i waith a'i fywyd.
  • E. Wyn James, ‘Griffith Jones (1684–1761) of Llanddowror and His “Striking Experiment in Mass Religious Education” in Wales in the Eighteenth Century’, yn Volksbildung durch Lesestoffe im 18. und 19. Jahrhundert / Educating the People through Reading Material in the 18th and 19th Centuries, gol. Reinhart Siegert (Bremen, Yr Almaen: Edition Lumière, 2012), 275-92. ISBN 978-3-943245-03-5.

Cyfeiriadau

  1. Davies, J. (1992). Hanes Cymru. London: Penguin Books. ISBN 0-14-012570-1.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.