Griffith Jones, Llanddowror: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3404013 (translate me)
Pjschem (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
[[Delwedd:GriffithJonesPreacher.jpg|bawd|230px|Griffith Jones]]
[[Delwedd:GriffithJonesPreacher.jpg|bawd|230px|Griffith Jones]]


Sylfaenydd yr [[Ysgolion Cylchynol Cymreig]] oedd '''Griffith Jones''' (1683 – 1761), a adnabyddir gan amlaf fel '''Griffith Jones, Llanddowror'''.
'''Griffith Jones''' (1683 – 1761), a adnabyddir gan amlaf fel '''Griffith Jones, Llanddowror''', oedd sylfaenydd yr [[Ysgolion Cylchynol Cymreig]].


Yn dod yn wreiddiol o [[Pen-boyr|Ben-Boyr]], [[Sir Gaerfyrddin]], cafodd ei addysg yn [[Ysgol Ramadeg Caerfyrddin]] a'i ordeinio yn [[1708]]. Yn [[1716]] cafodd reithoriaeth ym mhentref [[Llanddowror]], sydd hefyd yn Sir Gaerfyrdddin. Roedd yn aelod brwdfrydig o'r [[Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]].
Brodor o [[Pen-boyr|Ben-Boyr]], [[Sir Gaerfyrddin]] a gafodd ei addysg yn [[Ysgol Ramadeg Caerfyrddin]] a'i ordeinio ym [[1708]]. Ym [[1716]] cafodd reithoriaeth ym mhentref [[Llanddowror]]. Roedd yn aelod brwdfrydig o'r [[Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]].


Yn [[1731]] sefydlodd y cyntaf o'i ysgolion cylchynol enwog. Roedd yr ysgolion mewn un man am ryw dri mis, fel arfer yn y gaeaf pan oedd amser gan y ffermwyr i fynychu'r ysgol. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen y [[Beibl]] [[Cymraeg]] ac i adrodd [[catecism]] [[Eglwys Loegr]]. Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi cael eu sefydlu mewn 1600 o leoedd a Chymru'n mwynhau'r lefel [[llythrenedd]] gorau yn y byd.
Ym [[1731]] dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen at ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i fynychu'r ysgolion. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r [[Beibl 1588|Beibl Cymraeg]] a thrwy adrodd [[Catecism|Catecism Eglwys Loegr]]. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan [[Bridget Bevan]], merch y dyngarwr, [[John Vaughan]] (1633-1772) a'i chysylltiadau cefnog yn [[Llundain]] a [[Caerfaddon|Chaearfaddon]]. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, '''Welsh Piety'''; ynddynt y byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian. <ref>{{cite book|author=Davies, J.|title=Hanes Cymru|publisher=Penguin Books|location= London|year=1992|isbn=0-14-012570-1}}</ref> Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf [[llythrennedd|llythrennog]] y byd.


Mae'n werth nodi nad oedd wedi bod yng [[Cymru|Nghymru]] unrhyw fath o gyfundrefn addysg yn Gymraeg cyn hynny ers [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymiad y mynachlogydd]].
Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng [[Cymru|Nghymru]] cyn hynny ers [[diddymu'r mynachlogydd]].


==Darllen pellach==
==Darllen pellach==

Fersiwn yn ôl 13:48, 11 Mawrth 2013

Gweler hefyd Griffith Jones (actor)

Griffith Jones

Griffith Jones (1683 – 1761), a adnabyddir gan amlaf fel Griffith Jones, Llanddowror, oedd sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig.

Brodor o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin a gafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a'i ordeinio ym 1708. Ym 1716 cafodd reithoriaeth ym mhentref Llanddowror. Roedd yn aelod brwdfrydig o'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.

Ym 1731 dechreuodd sefydlu ei ysgolion cylchynol enwog. Addysgid trigolion un ardal am dri mis cyn i'r gwaith symud ymlaen at ardal arall. Fel arfer yn y gaeaf y cynhaliwyd y gwersi pan oedd gan y ffermwyr a'u teuluoedd amser i fynychu'r ysgolion. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen trwy astudio'r Beibl Cymraeg a thrwy adrodd Catecism Eglwys Loegr. Noddwyd yr ysgolion cylchynol gan Bridget Bevan, merch y dyngarwr, John Vaughan (1633-1772) a'i chysylltiadau cefnog yn Llundain a Chaearfaddon. Ysgrifennai Griffith Jones adroddiadau blynyddol ar gyfer ei noddwyr o dan y teitl, Welsh Piety; ynddynt y byddai'r awdur yn adrodd ar gynnydd yr ysgolion ac yn ymbil â'r noddwyr am ragor o arian. [1] Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi'u sefydlu mewn 1600 o lefydd a Chymru ymysg gwledydd mwyaf llythrennog y byd.

Mae'n werth nodi na fu unrhyw fath o gyfundrefn addysg Gymraeg yng Nghymru cyn hynny ers diddymu'r mynachlogydd.

Darllen pellach

  • Gwyn Davies, Griffith Jones, Llanddowror, Athro Cenedl (1984)
  • Geraint H. Jenkins, Hen filwr dros Grist (1983)
  • R. T. Jenkins, Griffith Jones, Llanddowror (1930)
  • D. Ambrose Jones, Griffith Jones, Llanddowror (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1923). 'Cyfres Arweinwyr Cymru' I. Arolwg cynhwysfawr o'i waith a'i fywyd.
  • E. Wyn James, ‘Griffith Jones (1684–1761) of Llanddowror and His “Striking Experiment in Mass Religious Education” in Wales in the Eighteenth Century’, yn Volksbildung durch Lesestoffe im 18. und 19. Jahrhundert / Educating the People through Reading Material in the 18th and 19th Centuries, gol. Reinhart Siegert (Bremen, Yr Almaen: Edition Lumière, 2012), 275-92. ISBN 978-3-943245-03-5.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Davies, J. (1992). Hanes Cymru. London: Penguin Books. ISBN 0-14-012570-1.