Llanferres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6661367 (translate me)
Llinell 22: Llinell 22:
[[Categori:Cymunedau Sir Ddinbych]]
[[Categori:Cymunedau Sir Ddinbych]]
[[Categori:Pentrefi Sir Ddinbych]]
[[Categori:Pentrefi Sir Ddinbych]]

[[en:Llanferres]]

Fersiwn yn ôl 12:15, 11 Mawrth 2013

Llanferres
Sir Ddinbych

Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Llanferres. Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd, ar y briffordd A494, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd-ddwyrain a Rhuthun i'r de-orllewin.

Saif y pentref ar lan orllewinol Afon Alun. I'r gorllewin ceir bryngaer Foel Fenlli.

Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).

Chwedl werin

Mae Morfudd ferch Urien a'i frawd Owain ab Urien yn ymddangos mewn hen chwedl werin Gymraeg a gysylltir a rhyd yn y plwyf a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi dillad. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyddyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.

Enwogion

Ganwyd yr ysgolhaig ac awdur Dr John Davies (c. 1567 - 1644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, yn Llanferres tua'r flwyddyn 1567.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato