Fyodor Tyutchev: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 52 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q37217 (translate me)
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q37217 (translate me)
Llinell 15: Llinell 15:
[[Categori:Beirdd Rwseg|Tyutchev, Fyodor]]
[[Categori:Beirdd Rwseg|Tyutchev, Fyodor]]
[[Categori:Llenorion Rwseg|Tyutchev, Fyodor]]
[[Categori:Llenorion Rwseg|Tyutchev, Fyodor]]

[[el:Φιόντορ Τιούτσεφ]]

Fersiwn yn ôl 10:56, 11 Mawrth 2013

Ffedor Tiwtsief

Roedd Fyodor Ivanovich Tyutchev (Ffedor Ifánofits Tiwtsief) (Rwseg Фёдор Иванович Тютчев) yn fardd enwog a diplomydd Rwsiaidd.

Ganwyd ar 5 Rhagfyr 1803 a bu farw ar 27 Gorffennaf 1873. Roedd yn byw ar adegau ym Munich a Thurin ac y roedd yn gynefin Heine a Schelling. Doedd e ddim yn cyfrannu at fywyd llenyddol, nac yn ei alw ei hun yn ysgrifennwr. Tuag at 400 o'i gerddi sydd ar glawr, ac mae rhai llinellau ohonynt yn cael eu dyfynnu'n aml yn Rwsia.

Mae'r cerddi cynnar yn perthyn i dradoddiad barddoniaeth Rwsiaidd yr 18fed ganrif. Yn y 1830au traddodiadau Oes Rhamantaidd Ewrop (a'r Almaen yn arbennig) sydd yn gryf iawn yn ei farddoniaeth. Cerddi telynegol athronyddol yw'r rhain: myfyrion ar y dynged ddynol, ar yr hollfyd, ar yr ansawdd sydd yn brif bwnc ohonynt. Yn y 1840au ysgrifennodd rai erthyglau gwledyddol ynglyn â'r berthynas rhwng Rwsia a gwareiddiad y Gorllewin. Yn y 1850au creuodd Tiwtsief rhai rhieingerddi trywan y mae serch yn cael ei weld fel trasiedi ynddynt. Mae'r cerddi hyn wedi cael eu huniaethu â'r Cylch Denísïefa, nid amgen, y cerddi a gafodd eu cysegru i gariad y bardd, E. A. Denísïefa. Yn y 1860au a'r 1870au cerddi gwleidyddol sydd yn goruchafu yn ei farddoniaeth.

Cerdd enwocaf Tyutchev yw Silentium! — anogaeth chwerw i ddistawrwydd edifaru'r ffaith nad yw'r naill dyn ddim yn gallu deall y llall o'r bron. Mae'r llinell "Anwiredd yw meddwl wedi'i adrodd" (Rwseg Мысль изреченная есть ложь) yn un o ddiarhebion Tyutchev sydd yn cael eu dyfynnu amlaf. "Ni ellir deall Rwsia drwy feddwl" (Умом Россию не понять) a "Ni roddir i ni ddarogan sut yr ymatebith ein gair i ni" (Нам не дано предугадать, как наше слово отзовется) yw'r rhai eraill.

Dolenau allanol