Bleddyn ap Cynfyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 5 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q545850 (translate me)
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q545850 (translate me)
Llinell 21: Llinell 21:
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:Marwolaethau 1075]]
[[Categori:Marwolaethau 1075]]

[[sh:Bleddyn ap Cynfyn]]

Fersiwn yn ôl 10:35, 11 Mawrth 2013

Roedd Bleddyn ap Cynfyn (m. 1075) yn dywysog Gwynedd a Powys.

Yr oedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd Gruffydd ap Llywelyn gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan Harold Godwinson yn 1063, rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd Rhiwallon wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn 1067 ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fercia i ymosod ar y Normaniaid yn Henffordd, yna yn 1068 gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mercia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.

Ceisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth. Fe'i lladdwyd yn 1075 gan Rhys ab Owain ag uchelwyr Ystrad Tywi, llofruddiaeth a barodd fraw trwy Gymru. Yn ôl Brut y Tywysogion yr oedd Bleddyn yn frenin daionus ac yn gyfrifol am ddiweddaru cyfraith Hywel Dda.

O'i flaen :
Gruffydd ap Llywelyn
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Trahaearn ap Caradog
Brenhinoedd Powys Olynydd :
Maredudd ap Bleddyn
(fel Tywysog Powys)