Iago ap Beli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2419470 (translate me)
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2419470 (translate me)
Llinell 22: Llinell 22:
[[Categori:Genedigaethau'r 560au]]
[[Categori:Genedigaethau'r 560au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 610au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 610au]]

[[be:Іага ап Белі]]

Fersiwn yn ôl 10:33, 11 Mawrth 2013

Roedd Iago ap Beli (560? - 615) (Lladin : Iacobus) yn frenin Gwynedd.

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Iago. Yn wleidyddol yr oedd yn gyfnod pan oedd y teyrnasoedd Seisnig megis Mercia a Brynaich, yn cynyddu mewn grym, yn enwedig Pybba brenin Mercia a'i fab Penda. Mae'n ymddangos fod Iago wedi dod i gytundeb a Pybba, na fydda Pybba yn ymosod ar Wynedd os byddai Gwynedd yn ei gynorthwyo, os byddai angen, yn erbyn Northumbria. Dywedir i Edwin o deyrnas Deifr gael lloches gyda Iago yn 604 ar ôl cael ei ddiorseddu gan Æthelfrith. Arweiniodd hyn at ymosodiad ar Gymru gan Æthelfrith a brwydr Caer (tua 615) lle lladdwyd Selyf ap Cynan brenin Teyrnas Powys a llawer o fynachod o fynachlog Bangor Is-y-Coed.

Nid oes cofnod fod byddin Gwynedd wedi cymeryd rhan yn y frwydr yma. Cofnodir marw Iago ap Beli yn 613, a thybir weithiau ei fod ef wedi ei ladd yn y frwydr. Mae'r cofnod am farwolaeth Iago yn y cronicl (Harleian MS 3859) yn defnyddio'r gair dormitatio (syrthio i gysgu) am ei farwolaeth; nid y gair a ddefnyddid am farwolaeth mewn brwydr. Defnyddir dormitatio fel rheol am farwolaeth gwr eglwysig, felly gall fod yn awgrym fod Iago wedi ymneilltuo i fynachlog. Mae cofnod ei fod wedi rhoi rhodd i eglwys gadeiriol Bangor. Dilynwyd ef gan ei fab Cadfan ap Iago.

Cyfeiriadau

J.E. Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co,)

O'i flaen :
Beli ap Rhun
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Cadfan ap Iago