William Abraham (Mabon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3403145 (translate me)
Llinell 28: Llinell 28:
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig]]

[[en:William Abraham (trade unionist)]]
[[sv:William Abraham]]

Fersiwn yn ôl 09:31, 11 Mawrth 2013

William Abraham (Mabon)
Gweler hefyd Mabon.

Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Aelod Seneddol oedd William Abraham (Mabon) (14 Mehefin 1842 - 14 Mai 1922).

Ganed ef yng Nghwmafan, yn fab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafan, gan adael yn ddeg oed, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith alcam ac fel glowr. Yn y 1860au bu am gyfnod yn Chile yn gweithio yn y gweithfeydd copr yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr yn 1870, a bu'n llywydd y glowyr ar y Joint Sliding Scale Association o 1875 hyd 1903.

Diwrnod Mabon

Rhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."

Yr Aelod Seneddol

Daeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Ar y cyntaf, roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol, yna'n ddiweddarach yn aelod o'r Blaid Lafur pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898, gyda Mabon yn llywydd.

Eisteddfodwr brwd

Roedd hefyd yn gefnogwr cryf i'r Eisteddfod, a daeth ei enw barddol "Mabon" yn gysylltiedig a'i enw.

Llyfryddiaeth

  • Evans, Eric Wyn, Mabon (William Abraham, 1842-1922): a study in trade union leadership (Caerdydd, 1959).
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Rondda
18851918
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Orllewin Rhondda
19181920
Olynydd:
William John