British League of Racing Cyclists: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q4970249 (translate me)
Llinell 25: Llinell 25:
[[Categori:Seiclo yn y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Seiclo yn y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Sefydliadau 1942]]
[[Categori:Sefydliadau 1942]]

[[en:British League of Racing Cyclists]]

Fersiwn yn ôl 15:08, 10 Mawrth 2013

Clawr trwydded rasio/cerdyn aelodaeth y BLRC (© T. Haf)
Tu mewn trwydded Rasio 1956 W.L. Rixon
(© T. Haf)

Cymdeithas a ffurfwyd i hybu rasio ffordd ym Mhrydain oedd y British League of Racing Cyclists (Byrenw: BLRC).

Sefydlwyd yn 1942 mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda'r National Cyclists' Union (a oedd wedi gwahardd rasio oddiar ffyrdd cyhoeddus yn 1890).

Daeth yr ysgogiad i sefydlu'r BLRC pan drefnodd y seiclwr o Orllewin y Canolbarth, Percy Stallard, ras 59 milltir yn cychwyn mewn tyrfa o Llangollen i Wolverhampton ar ddydd Sul 2 Mehefin 1942. Cafodd Stallard a phawb a gymerodd ran eu gwaharth o'r NCU; eu hymateb oedd i seflydlu'r BLRC. Ffurfwyd mewn cyfarfod o 24 o bobl yng Ngwesty Sherebrook Lodge, Buxton, Swydd Derby ar ddydd Sul 14 Tachwedd 1942). Yn 1943, hyrwyddodd y BLRC Bencampwriaeth Cenedlaethol Rasio Ffordd cyntaf Prydain, yn Harrogate ac yn ddiweddarach y ras sawl cam Brighton-Glasgow, rhagflaenydd i'r Daily Express Tour of Britain, a redwyd am y tro cyntaf yn 1951.

Trefnodd y BLRC dimau i'w cynyrchioli ar y cyfandir; er engraifft, o 1948 ymlaen anfonsont dîm i'r Peace Race (enillodd eu aelod tîm, Ian Steel y ras ac enillont gystadleuaeth y timau yn 1952). Cofnogodd y BLRC y tîm cenedlaethol cyntaf, gan gynnwys Brian Robinson a anfonwyd i gystadlu yn y Tour de France yn 1955; gan nad oedd y BLRC yn cael ei adnabod fel corff llywodraethu cenedlaethol gan yr UCI, nid oedd yr NCU yn dewis aelodau BLRC fel rhan o'r tîm cenedlaethol swyddogol. Dewiswyd aelodau tîm y BLRC gan newyddiadurwyr seiclo o'r papurau Prydeinig.

Mae'r testun a oedd yn nhu mewn trwyddedau rasio'r BLRC yn arwyddocad o'u safbwynt ar y pryd (Saesneg):

POLICE INTERFERENCE
  1. Make no statement to the Polica about anything happening during a Race.
  2. If questioned, say 'I do not wish to make a Statement.'
  3. Any rider accused of any offence which he does not consider he has committed should add 'I deny that I ......... (whatever he is accused of).'
  4. DO NOT SAY ANYTHING ELSE
  5. GIve full details to the Organiser.

Ymunodd nifer fawr o seiclwyr gyda'r BLRC. Polareiddwyd rasio Prydeinig; nid oedd clybiau seiclo ymaelodi gyda'r NCU a'r BLRC, gwaharddwyd unrhyw seiclwyr a gystadlodd yn rasus y BLRC rhag gystadlu yn rasus yr NCU ac o rasus treial amser a redwyd gan y Road Time Trials Council. Ni adnabyddwyd campau'r BLRC gan y rheiny a oedd yn gyfrifol am wobrwyo Gwobr Goffa Bidlake.

Gorffennodd y gystadleuaeth gyda'r NCU yn 1959, pan gyfunwyd y ddwy gorff i greu'r British Cycling Federation, a gafodd ei adnabod yn swyddogol gan yr UCI.