Edwin ap Hywel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q2076198 (translate me) |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[Categori:Marwolaethau 954|Edwin ap Hywel]] |
[[Categori:Marwolaethau 954|Edwin ap Hywel]] |
||
[[Categori:Hanes Cymru]] |
[[Categori:Hanes Cymru]] |
||
[[ca:Edwin ap Hywel]] |
|||
[[en:Edwin ap Hywel]] |
|||
[[ru:Эдвин ап Хивел]] |
Fersiwn yn ôl 12:14, 10 Mawrth 2013
Cyd-frenin Deheubarth oedd Edwin ap Hywel (bu farw 954).
Roedd Rhodri yn fab i Hywel Dda, ac efallai fod y ffaith i Edwin gael enw Eingl-Sacsonaidd yn adlewyrchiad o bolisi gwleidyddol ei dad. Ar farwolaeth Hywel yn 950, rhannwyd ei deyrnas rhwng Edwin a'i ddau frawd, Rhodri ac Owain. Ni lwyddodd y llinach i gadw eu gafael ar Wynedd oedd wedi bod yn rhan o deyrnas eu tad ers 942. Gallodd meibion Idwal Foel, Iago ab Idwal ac Ieuaf ab Idwal, gipio grym yno.
Yn 952 ymosododd Iago ac Ieuaf ar Ddeheubarth, gan gyrraedd cyn belled a Dyfed. Y flwyddyn wedyn, arweiniodd meibion Hywel gyrch yn erbyn y gogledd, gan gyrraedd cyn belled a Dyffryn Conwy cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr ger Llanrwst a'u gorfodi i ddychwelyd i Geredigion.
Bu farw Rhodri yn 953 ac yna Edwin ei hun yn 954, gan adael Owain ap Hywel yn frenin Deheubarth.
Llyfryddiaeth
- John Davies (2007) Hanes Cymru (Penguin) ISBN 0-140-28476-1
- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
Rhagflaenydd: Hywel Dda |
Brenin Deheubarth 950 – 954 gyda Rhodri ap Hywel (hyd 953) ac Owain ap Hywel |
Olynydd: Owain ap Hywel |