Bleddyn Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Dolenni allanol: newidiadau man using AWB |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3331138 (translate me) |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[Categori:Beirdd Cymraeg]] |
[[Categori:Beirdd Cymraeg]] |
||
[[Categori:Beirdd y Tywysogion]] |
[[Categori:Beirdd y Tywysogion]] |
||
[[br:Bleddyn Fardd]] |
|||
[[en:Bleddyn Fardd]] |
|||
[[gl:Bleddyn Fardd]] |
Fersiwn yn ôl 11:41, 10 Mawrth 2013
Bardd Cymreig oedd Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n fardd nodweddiadol oherwydd y galargerddi a ysgrifenodd ar farwolaeth Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sydd wedi eu cofnodi yn Llawysgrif Hendregadredd, fel gweddill y testunau.
Ni wyddys dim am fywyd y bardd ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Ymddengys mai Dafydd Benfras oedd athro barddol Bleddyn. Fel Dafydd Benfras, mae hi bron yn sicr fod Bleddyn Fardd yn bencerdd i Lywelyn ap Gruffudd; yn sicr yr oedd yn un o feirdd llys Gwynedd.
Cedwir 14 o gerddi gan Fleddyn Fardd. Ceir saith awdl a saith cadwyn englynion; cyfanswm o 458 o linellau. Canodd farwnadau i Ddafydd Benfras, Goronwy ab Ednyfed (distain Gwynedd) a'i fab Hywel ap Goronwy. Ceir yn ogystal marwnad i Gruffudd ab Iorwerth ap Maredudd o Fôn. Canodd gerdd o fawl i Rys ap Maredudd ap Rhys.
Ond fe'i cofir yn bennaf efallai am y gyfres o farwnadau nodedig i Lywelyn ap Gruffudd a'i frodyr Dafydd ac Owain Goch. Yn ogystal canodd gerdd arbennig 'Marwnad Tri Mab Gruffudd ap Llywelyn', sydd i'w dyddio i tua 1283.
Ceir yn ogystal marwysgafn gan y bardd ar ei wely angau.
Llyfryddiaeth
- Rhian M. Andrews (gol.). 'Gwaith Bleddyn Fardd', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.
Dolenni allanol