Khushal Khan Khattak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makecat-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: simple:Khushal Khan Khattak
→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB
Llinell 8: Llinell 8:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}



[[Categori:Genedigaethau 1613]]
[[Categori:Genedigaethau 1613]]

Fersiwn yn ôl 22:59, 9 Mawrth 2013

Delwedd:Khushal-Khan-Khattak.jpg
Khushal Khan Khattak

Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd Khushal Khan Khattak (1613 - 1689) (Pashto: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron Mughal yn yr 17eg ganrif; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun (Pathan) a'r Affganiaid i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr Hindu Kush yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn Khyber Pakhtunkhwa, Pacistan.

Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr Affridiaid, un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.[1]

Bu farw yn 78 oed gan adael ar ei ôl dros hanner cant o blant. Cafodd ei gladdu ym mryniau Khattack "allan o gyrraedd y Mughal"; mae'r beddrod i'w weld heddiw, nepell o Attock.[2]

Cyfeiriadau

  1. James W. Spain, The Way of the Pathans (Gwasg Prifysgol Rhydychen 1962, arg. newydd 1972), pennod 'The Warrior Bard'.
  2. The Way of the Pathans.