Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid ta:உயிர்த்த ஞாயிறு yn ta:உயிர்ப்பு ஞாயிறு |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Mathis Gothart |
[[Delwedd:Mathis Gothart Grünewald 044 cropped.jpg|thumb|Allor Isenheim gan [[Matthias Grünewald]]]] |
||
Gŵyl bwysicaf [[Cristnogaeth]] yw'r '''Pasg''' ([[Groeg]]: '''Πάσχα''', ''Pascha''). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu [[atgyfodiad]] [[Iesu Grist]] ar [[Dydd Sul y Pasg|Ddydd Sul y Pasg]], ar ôl ei [[croeshoelio|groeshoelio]] ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]], sef y dydd gwener cyn hynny. |
Gŵyl bwysicaf [[Cristnogaeth]] yw'r '''Pasg''' ([[Groeg]]: '''Πάσχα''', ''Pascha''). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu [[atgyfodiad]] [[Iesu Grist]] ar [[Dydd Sul y Pasg|Ddydd Sul y Pasg]], ar ôl ei [[croeshoelio|groeshoelio]] ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]], sef y dydd gwener cyn hynny. |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
⚫ | |||
[[Categori:Gwyliau]] |
[[Categori:Gwyliau]] |
||
Llinell 24: | Llinell 26: | ||
[[Categori:Y Pasg| ]] |
[[Categori:Y Pasg| ]] |
||
⚫ | |||
{{Link FA|hr}} |
{{Link FA|hr}} |
||
{{Link FA|id}} |
{{Link FA|id}} |
||
{{Link FA|mk}} |
{{Link FA|mk}} |
||
{{Link FA|uk}} |
{{Link FA|uk}} |
||
[[af:Paasfees]] |
[[af:Paasfees]] |
||
[[als:Ostern]] |
[[als:Ostern]] |
Fersiwn yn ôl 12:59, 9 Mawrth 2013
Gŵyl bwysicaf Cristnogaeth yw'r Pasg (Groeg: Πάσχα, Pascha). Mae Cristnogion drwy'r byd yn dathlu atgyfodiad Iesu Grist ar Ddydd Sul y Pasg, ar ôl ei groeshoelio ar Ddydd Gwener y Groglith, sef y dydd gwener cyn hynny.
Digwyddodd y Groeshoeliad yn ystod y Pasg Iddewig, gŵyl sy'n cael ei disgrifio yn yr Hen Destament (Exodus 12:1-30). Mae'r Pasg Cristnogol wedi ei sylfaenu ar y Pasg Iddewig yn drosiadol hefyd: mae'r Testament Newydd yn galw Iesu yn "Oen y Pasg" (1 Corinthiaid 5:7).
Gall "y Pasg" hefyd gyfeirio at "Dymor y Pasg", sy'n awr yn para am 50 diwrnod hyd y Pentecost. Mae'r Pasg yn nodi diwedd Tymor y Grawys.
Amrywia dyddiad y Pasg o flwyddyn i flwyddyn, rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Ebrill; neu i Eglwysi Uniongred y dwyrain, rhwng dechrau Ebrill a dechrau Mai. Bu canrifoedd lawer o ddadlau ynghylch dyddiad y Pasg, ond yn y diwedd cytunwyd i dderbyn dull yr Eglwys Alecsandraidd, yn awr yr Eglwys Goptaidd, mai'r Pasg yw'r dydd Sul cyntaf ar ôl pedwerydd diwrnod ar ddeg cylch y Lleuad sydd ar neu ar ôl cyhydnos y gwanwyn.
Traddodiadau'n ymwneud â'r Pasg
Ceir nifer o draddodiadau sy'n ymwneud â'r Pasg, rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i gyfnod y crefyddau Paganaidd. Yng Nghymru, fel llawer o wledydd eraill drwy'r byd, mae'n arferiad rhoi ŵy Pasg yn anrheg i ffrindiau a theulu. Ceir hefyd gysylltiad gyda'r gwningen - sy'n mynd yn ôl mor bell â 1600; gwaith y gwningen ydy cuddio'r wyau Pasg o gwmpas y tŷ. Dywed eraill fod cysylltiad llawer hyn i Gwningen y Pasg, sy'n mynd nôl i'r hen grefydd Geltaidd. Sonir mewn ysgrifen yn gyntaf am y traddodiad hwn yn llyfr Georg Franck von Franckenau, De ovis paschalibus[1] (Ynghylch Wyau Pasg) yn 1682[2] sy'n crybwyll hen draddodiad o Alsace am yr ysgyfarnog yn dod â wyau Pasg i'r plant. Diddorol hefyd ydy cysylltiad Santes Melangell gyda'r sgwarnog.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ "Easter Bunny". cfi. Cyrchwyd 08/04/2012. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Easter Bunny - What Does He Have To Do With Easter?, occultcenter.com