Dinmael: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
lluniau ac ehangu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5278387 (translate me)
Llinell 26: Llinell 26:
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]

[[en:Dinmael]]

Fersiwn yn ôl 12:33, 9 Mawrth 2013

Bro, hen arglwyddiaeth a chwmwd yng nghalon Gogledd Cymru yw Dinmael. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac ychydig iawn o gyfeiriadau sydd 'na iddi yn y cofnodion. Mae elfen gyntaf yr enw, 'din(as)', yn golygu 'caer, amddiffynfa', tra bod 'mael' yn golygu naill ai 'uchel' neu 'tywysog, brenin': "Y Gaer Uchel" yw'r ystyr yn ôl pob tebyg felly.

Hanes

Gwartheg ar fferm yn Ninmael.
Capel Dinmael.

Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng teyrnas Gwynedd a'r Berfeddwlad i'r gogledd a Phowys yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag Edeirnion a Phenllyn, dau gantref strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi Rhos a Dyffryn Clwyd. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn Oes y Tywysogion oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o Lyndyfrdwy trwy Gerrigydrudion i gyfeiriad Nant Conwy a chalon Gwynedd.

Ar ganol y 12fed ganrif Einion ab Ednyfed, brawd Gwenllïan gwraig Rhirid Flaidd, oedd arglwydd Dinmael (neu'n dal tir sylweddol yno). Owain Brogyntyn oedd arglwydd Dinmael yn 1180.

Y fro heddiw

Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth Bro Dinmael yn gorwedd yn sir Conwy heddiw ac mae'n sylweddol lai na'r hen gwmwd. Mae'n fro wledig, amaethyddol, heb lawer o dai. Yr unig ganolfan o unrhyw faint yw pentref bychan Y Maerdy. Ceir Ysgol Dinmael yn Ninmael sy'n cynnig addysg gynradd i blant y fro. Mae rhieni'r plant yn cael y dewis o'i hanfon i Ysgol y Berwyn, Y Bala (Gwynedd) neu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun (Sir Ddinbych).[1]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Ysgol Dinmael ar wefan Bro Dinmael.

Dolenni allanol