Glyder Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
anrheg Dolig: categori Glyder Fawr ar Gomin |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3109361 (translate me) |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Eryri]] |
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Eryri]] |
||
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Gwynedd]] |
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Gwynedd]] |
||
[[en:Glyder Fawr]] |
|||
[[fr:Glyder Fawr]] |
Fersiwn yn ôl 12:00, 9 Mawrth 2013
Glyder Fawr Glyderau | |
---|---|
Llun | Creigiau ger Castell y Gwynt ger copa'r Glyder Fawr |
Uchder | 999m |
Lleoliad | {{{lleoliad}}} |
Gwlad | Cymru |
Mae'r Glyder Fawr yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau, er ei fod un medr yn fyr o fod yn gopa 1,000 medr o uchder. Ceir creigiau mawr ar y copa, yn arbennig y casgliad o greigiau a elwir yn "Castell y Gwynt".
Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r chwith yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i'r Glyder Fach. Gellir dringo'r mynydd o Pen-y-Pass hefyd, neu gellir dringo Tryfan gyntaf ac yna dilyn y grib i'r Glyder Fach a'r Glyder Fawr, ond mae'r llwybr yma'n anoddach.
Yn ôl Syr Ifor Williams, "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".
Dolen allanol
- Golygfa o'r copa wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur Tua'r gogledd Tua'r de Mynegai
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |