Richart de Fornival: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MystBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: de:Richard de Fournival
→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB
Llinell 8: Llinell 8:


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
*Graham C. G. Thomas (gol.), ''A Welsh Bestiary of Love'' (Dulyn, 1988).
*Graham C. G. Thomas (gol.), ''A Welsh Bestiary of Love'' (Dulyn, 1988).


{{DEFAULTSORT:Fornival, Richart de}}
{{DEFAULTSORT:Fornival, Richart de}}

Fersiwn yn ôl 11:57, 9 Mawrth 2013

Llenor canoloesol yn yr iaith Ffrangeg, casglwr llawysgrifau, a chlerigwr oedd Richart de Fornival, a adwaenir hefyd fel Richard de Fournival (10 Hydref 1201 - c. 1 Mawrth ?1260). Ei gyfrol enwocaf yw'r bwystori Bestiaire d'Amour ('Bwystori Serch') sy'n cynrychioli penllanw traddodiad seciwlar - gweithiau alegoriaidd Cristnogol yw'r rhan fwyaf o'r bwystoriau - sydd â'i wreiddiau yng ngwaith y trwbadwriaid.

Uchelwr o ardal Picardi oedd Richart, mab Rogier de Fornival a hanner-brawd Arnoul, esgob Amiens o 1236 hyd 1246. Yn 1240 roedd yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Amiens, diolch i'w frawd efallai, a chofnodir iddo fod yn ganghellor yno yn 1246. Cofnodir hefyd iddo gael ei drwyddedu yn llawfeddyg gan y Pab Innocent IV yn yr un flwyddyn. Bu farw ar 1 Mawrth, yn 1259 neu 1260 (yr olaf sydd fwy tebygol).

Roedd yn gasglwr llawysgrifau brwd. Cedwir y catalog o lyfrau ei gasgliad a ysgrifennodd yn ei law ei hun. Roedd ganddo tua 300 o lawysgrifau - cyfanswm eithriadol iawn i unigolyn yn yr Oesoedd Canol - sy'n cynnwys cyfrolau ar y trivium a'r quadrivium, athroniaeth, metaffiseg, meddygaeth, y Gyfraith (sifil ac eglwysig), yr Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a'r Clasuron. Mae llawer o'r llyfrau hyn yn Llyfrgell y Sorbonne, Paris, er 1272.

Ysgrifennodd sawl llyfr ar alcemeg (cyhoeddodd draethawd Lladin ar y pwnc) a chyfrolau hyfforddiadol, didactig, ar serch. Yn y dosbarth olaf y mae'r Bestiaire d'Amour yn syrthio. Cyfuniad ydyw o ddeunydd naturiaethol a chwedlonol y bwystoriau traddodiadol ac esboniadau ar natur serch a'r llwybr i lwyddiant ym myd serch. Cafwyd cyfieithiadau Cymraeg o'r Bestiaire gan Gwilym Tew, Llywelyn Siôn ac eraill.

Cyfeiriadau

  • Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love (Dulyn, 1988).