Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Gweler hefyd: gh |
→Traddodiadau Cymreig: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
== Traddodiadau Cymreig == |
== Traddodiadau Cymreig == |
||
* Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r [[draenen wen|ddraenen wen]] a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.<ref>Trefor M. Owen. ''Welsh Folk Customs''. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.</ref> |
* Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r [[draenen wen|ddraenen wen]] a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.<ref>Trefor M. Owen. ''Welsh Folk Customs''. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.</ref> |
||
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.<ref>''Welsh Folk Customs''</ref> |
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.<ref name="Welsh Folk Customs">''Welsh Folk Customs''</ref> |
||
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.<ref |
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.<ref name="Welsh Folk Customs"/> |
||
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a [[gwaseila]].<ref |
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a [[gwaseila]].<ref name="Welsh Folk Customs"/> |
||
== Neo-baganiaeth == |
== Neo-baganiaeth == |
Fersiwn yn ôl 11:53, 9 Mawrth 2013
Hen ŵyl sy'n nodi dechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir yn Gŵyl Calan Mai, neu Calan Haf) a ddethlir ar 1 Mai. Yr oedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd yn Beltane neu Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Fel y mae'r enw Bealtaine yn ei awgrymu, y mae'r duw Celtaidd Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, y mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Yr oedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.
Arferion ac arwyddocâd
Yn y Sanas Cormac, dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er mwyn eu diogelu rhag clefydau.[1]
Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.[2]
Yn ôl y Mabinogi, arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.
Traddodiadau Cymreig
- Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.[3]
- Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.[4]
- Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.[4]
- Yfid medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.[4]
Neo-baganiaeth
Mae'n un o wyliau Wica ac fe'i dethlir gan neo-baganiaid eraill hefyd.
Gwleidyddiaeth
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889. Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|