Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 12 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q766461 (translate me)
Llinell 35: Llinell 35:
[[Categori:Offerynnau tannau]]
[[Categori:Offerynnau tannau]]
[[Categori:Offerynnau cerdd Cymreig]]
[[Categori:Offerynnau cerdd Cymreig]]

[[br:Krouzh]]
[[ca:Crwth]]
[[de:Crwth]]
[[en:Crwth]]
[[es:Rota (instrumento musical)]]
[[fr:Crwth]]
[[gd:Cruit]]
[[hu:Crwth]]
[[it:Crotta]]
[[pl:Crwth]]
[[ru:Кротта]]
[[sv:Crwth]]

Fersiwn yn ôl 01:12, 9 Mawrth 2013

Crythor yn chwarae'r crwth. Beibl Siarl Foel, 9fed ganrif.
Copi modern o grwth Cymreig o'r 18fed ganrif.
Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.

Hen offeryn cerdd llinyddol (Lladin Llafar: chrotha, Saesneg: crowd), nid annhebyg i'r fiolin, a chanddo chwe thant (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â bwa. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde.

Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol Geltaidd a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd Brythonaidd cynnar.

Y Crwth yng Nghymru

Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato yn y Cyfreithiau Cymreig: pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall (Y Llyfr Du o'r Waun, c. 1200). Ymddengys fod beirdd yr uchelwyr yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y pibau a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi (fl. 1420-1489):

Pob ddau y glêr a ddeuyn',
pob dri fry i dŷ pob dyn;
wrth y drws un â'i grwth drwg,
a baw arall â'i berrwg.[1]

Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r delyn. Roedd yn boblogaidd iawn ym Môn yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, fel y tystia marwnad Huw Pennant (fl. 1565-1619) i'r crythor Siôn Alaw:

Y crwth hwn, croyw a thyner
Y gwnâi ei was pynciau pêr
Ac weithian mewn cwynfan cawdd
Y felysgerdd a floesgawdd.[2]

Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y 19eg ganrif.

Ceir sawl chwedl werin am 'Crythor Du' ac enwir dwy gainc ar ei ôl, sef 'Erddigan y Crythor Du' a 'Chainc y Crythor Du Bach'.

Cyfeiriadau

  1. Gwaith Lewys Glyn Cothi, 63.25-8.
  2. Traddodiad Cerdd Dant ym Môn.

Ffynonellau

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
  • Percy A. Scholes, The Concise Oxford Dictionary of Music (Rhydychen, 1964).
  • Dafydd Wyn Wiliam, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (Dinbych, 1989).