Afon Dyfi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q751915 (translate me)
→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB
Llinell 18: Llinell 18:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}


{{eginyn Gwynedd}}


[[Categori:Afonydd Gwynedd|Dyfi]]
[[Categori:Afonydd Gwynedd|Dyfi]]
[[Categori:Afonydd Cymru|Dyfi]]
[[Categori:Afonydd Cymru|Dyfi]]

{{eginyn Gwynedd}}

Fersiwn yn ôl 00:22, 9 Mawrth 2013

Afon Dyfi i'r gogledd o Fachynlleth

Un o afonydd gorllewin canolbarth Cymru yw Afon Dyfi. Mae'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi.

Hanes a thraddodiadau

Ger Machynlleth mae ffrwd afon Dulas yn aberu yn Afon Dyfi: credir mai hwn yw lleoliad yr Abercuawg enwog y cyfeirir at ganu'r cogau yno yn y gerdd 'Claf Abercuawg', sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.

Rhywle ar lan aber yr afon y cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi yn 1216 a welodd Llywelyn Fawr yn derbyn gwrogaeth tywysogion ac arglwyddi'r de.

Hen bennill

Mae un o'r Hen Benillion yn sôn am Afon Dyfi:

Blewyn glas ar afon Dyfi
A hudodd lawer buwch i foddi;
Lodes wen a'm hudodd innau
O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.[1]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato