Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Uwch Gynghrair Cymru"

Jump to navigation Jump to search
No change in size ,  8 o flynyddoedd yn ôl
newidiadau man using AWB
B (Bot: Migrating 30 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q218555 (translate me))
(newidiadau man using AWB)
 
==Sefydlu Cynghrair Cymru==
Er sefydlu [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] ym [[1876]], nid oedd CBDC erioed wedi sefydlu cynghrair cenedlaethol i'r clybiau oedd yn aelodau. Yn hanesyddol, mae timau gorau Cymru yn cystadlu ym mhyramid pêl-droed [[Lloegr]] gydag [[CPD Athletic Aberdâr|Aberdâr]], [[C.P.D._ Dinas_Abertawe Dinas Abertawe|Abertawe]], [[C.P.D._Dinas_Caerdydd Dinas Caerdydd|Caerdydd]], [[C.P.D._Casnewydd Casnewydd|Casnewydd]], [[C.P.D._Tref_Merthyr Tref Merthyr|Merthyr]] a [[C.P.D._Wrecsam Wrecsam|Wrecsam]] i gyd wedi bod yn aelodau o [[Cynghrair Bêl-droed Lloegr|Gynghrair Bêl-droed Lloegr]].
 
Ym mis Hydref 1991 gwnaeth Alun Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol CBDC ar y pryd, benderfyniad i sefydlu cynghrair genedlaethol gan ei fod yn credu bod bygythiad i fodolaeth Cymru fel gwald annibynnol o fewn [[Fifa]]. Mae gan CBDC ynghyd â [[Cymdeithas Bêl-droed Lloegr|Chymdeithas Bêl-droed Lloegr]], [[Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban]] a [[Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon|Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon]] sedd barhaol ar y [[Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol]] yn ogystal ag is-lywyddiaeth Fifa parhaol. Credir fod nifer o wledydd yn gweld hyn yn annheg ac yn chwilio am esgus i uno pedair gwlad Ynysoedd Prydain fel un tîm ar gyfer y [[Deyrnas Unedig]].
 
Roedd y penderfyniad i sefydlu Cynghrair Cymru yn un dadleuol ac amhoblogaidd gyda'r clybiau oedd eisoes yn chwarae ym mhyramid Lloegr. Roedd wyth clwb: [[C.P.D._Bae_Colwyn Bae Colwyn|Bae Colwyn]], [[C.P.D._Dinas_Bangor Dinas Bangor|Bangor]], [[C.P.D._Tref_Caernarfon Tref Caernarfon|Caernarfon]], [[C.P.D._Casnewydd Casnewydd|Casnewydd]], [[CPD Tref Merthyr]], [[C.P.D._Tref_Y_Barri Tref Y Barri|Y Barri]], [[C.P.D._Y_Drenewydd Y Drenewydd|Y Drenewydd]] ac [[C.P.D._Y_Rhyl Y Rhyl|Y Rhyl]], neu'r "''Irate Eight''" fel a'u gelwir gan y wasg Seisnig, yn bygwth mynd â CBDC i lys am yr hawl i aros yn is-gynghreiriau Lloegr.
 
Ond cyn y tymor agoriadol, penderfynodd Bangor, Y Drenewydd a'r Rhyl ymuno yn y gynghrair newydd ond yn anffodus i'r Rhyl daeth eu cais yn rhy hwyr a bu rhaid iddyn nhw chwarae yn ail adran y pyramid Cymreig. Oherwydd gwaharddiadau gan CBDC bu rhaid i'r pum clwb arall chwarae eu gemau cartref dros y ffin yn Lloegr. Ond wedi tymor yn chwarae yng [[Caerwrangon|Nghaerwrangon]] penderfynodd Y Barri symud yn ôl i ymuno â'r pyramid Cymreig.
==Ewrop==
 
Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu henwebu i gynrychioli Cymru yn rowndiau rhagbrofol [[Cynghrair_y_Pencampwyr_UEFACynghrair y Pencampwyr UEFA|Nghynghrair y Pencampwyr UEFA]]. Mae'r tîm sy'n gorffen yn yr ail safle, ynghyd â'r tîm sy'n cipio Cwpan Cymru yn cael eu henwebu i gynrychioli Cymru yng [[Cynghrair Europa|Nghynghrair Europa]] ac mae un lle yng Nghynghrair Europa ar gael i enillwyr y gemau ail gyfle Ewropeaidd.
 
Os yw'r tîm sydd yn ennill Cwpan Cymru hefyd yn ennill Uwch Gynghrair yna mae'r tîm sydd yn colli yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn cael eu henwebu i chwarae yng Nghynghrair Europa, os mae'r tîm sydd yn ennill Cwpan Cymru yn gorffen yn ail yn yr Uwch Gynghrair, ac o'r herwydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa, yna bydd y tîm sydd yn gorffen yn y trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu henwebu i chwarae yng Nghynghrair Europa.
452,433

golygiad

Llywio