Coedwig Gwydyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Huwmul (sgwrs | cyfraniadau) lincs i'r llynnoedd; angen erthygl ar sgota |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image: |
[[Image:View from Gwydir Forest.jpg|bawd|Coedwig Gwydyr, yn edrych tua'r [[Glyderau]] a'r [[Carneddau]].]] |
||
[[File:Cors Bodgynydd Reservoir - geograph.org.uk - 221635.jpg|bawd|[[Llyn Bodgynydd]], Coedwig Gwydry]] |
[[File:Cors Bodgynydd Reservoir - geograph.org.uk - 221635.jpg|bawd|[[Llyn Bodgynydd]], Coedwig Gwydry]] |
||
Coedwig yn [[Conwy (sir)|sir Conwy]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Coedwig Gwydyr''', hefyd '''Coed Gwydyr''', '''Coedwig Gwydir''' a '''Coed Gwydir'''. "Coedwig Gwydyr" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, [[Comisiwn Coedwigaeth Cymru]]. |
Coedwig yn [[Conwy (sir)|sir Conwy]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Coedwig Gwydyr''', hefyd '''Coed Gwydyr''', '''Coedwig Gwydir''' a '''Coed Gwydir'''. "Coedwig Gwydyr" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, [[Comisiwn Coedwigaeth Cymru]]. |
||
Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol [[Eryri]], o gwmpas [[Betws-y-Coed]], ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref [[Trefriw]] ac i'r de i gyffiniau [[Penmachno]]. O'r arwynebedd o 72.5 |
Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol [[Eryri]], o gwmpas [[Betws-y-Coed]], ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref [[Trefriw]] ac i'r de i gyffiniau [[Penmachno]]. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno. |
||
Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig: |
Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig: |
||
* [[Llyn Crafnant]] (63 acer) |
* [[Llyn Crafnant]] (63 acer) |
||
* [[Llyn Geirionydd]] (45 acer) |
* [[Llyn Geirionydd]] (45 acer) |
||
* [[Llyn Elsi]] (26 acer) |
* [[Llyn Elsi]] (26 acer) |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
* Shaw, Donald L. ''Gwydyr Forest in Snowdonia: a history'' (Cyfres Forestry Commission Booklet ; no.28, H.M.S.O., 1971) ISBN 0117100102 |
* Shaw, Donald L. ''Gwydyr Forest in Snowdonia: a history'' (Cyfres Forestry Commission Booklet ; no.28, H.M.S.O., 1971) ISBN 0117100102 |
||
[[Categori:Coedwigoedd Cymru|Gwydyr]] |
[[Categori:Coedwigoedd Cymru|Gwydyr]] |
Fersiwn yn ôl 23:09, 8 Mawrth 2013
Coedwig yn sir Conwy yng ngogledd Cymru yw Coedwig Gwydyr, hefyd Coed Gwydyr, Coedwig Gwydir a Coed Gwydir. "Coedwig Gwydyr" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, Comisiwn Coedwigaeth Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol Eryri, o gwmpas Betws-y-Coed, ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref Trefriw ac i'r de i gyffiniau Penmachno. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno.
Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig:
- Llyn Crafnant (63 acer)
- Llyn Geirionydd (45 acer)
- Llyn Elsi (26 acer)
- Llyn Parc (22 acer)
- Llyn Glangors (15 acer)
- Llyn Bodgynydd (14 acer)
- Llyn Goddionduon (10 acer)
- Llyn Pencraig (5 acer)
- Llyn Bychan (3 acer)
- Llyn Sarnau (3 acer)
- Llyn Tynymynydd (1 acer)
Ar un adeg roedd cryn dipyn o fwyngloddio am Blwm a sinc yn yr ardal, ac mae gweddillion nifer o'r hen fwyngloddiau i'w gweld. Crwwyd "Llwybr y Mwynwyr" i gysylltu pedair ohonynt, Parc. Hafna, Llanrwst a Cyffty.
Ceir nifer o blanhigion prin yn y fforest, yn enwedig o gwmpas yr hen fwyngloddiau, ac mae hefyd dystiolaeth fod y Bele yn dal i fyw yn y goedwig.
Llyfryddiaeth
- Shaw, Donald L. Gwydyr Forest in Snowdonia: a history (Cyfres Forestry Commission Booklet ; no.28, H.M.S.O., 1971) ISBN 0117100102