Gŵyl Galan Awst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: es:Lugnasad
→‎Lugnasad: newidiadau man using AWB
Llinell 4: Llinell 4:


== Lugnasad ==
== Lugnasad ==
Yng Ngwyddeleg, adnabyddir Gŵyl Galan Awst fel ''Lughnasadh''. Fe'i chysylltir â'r duw [[Lleu]] neu Lug/[[Lugh]] (yn enwedig ''[[Lug mac Ethnenn]]''). Enw'r [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]] ar [[Lyons]] ([[Ffrainc]]) oedd Lugudunum (''Caer Lleu'') a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl ''Lughnasadh'' tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac [[amaethyddiaeth]] a chyneuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.<ref>Gwyn Thomas, ''Duwiau'r Celtiaid'', Llafar Gwlad 24.</ref>
Yng Ngwyddeleg, adnabyddir Gŵyl Galan Awst fel ''Lughnasadh''. Fe'i chysylltir â'r duw [[Lleu]] neu Lug/[[Lugh]] (yn enwedig ''[[Lug mac Ethnenn]]''). Enw'r [[Rhufain hynafol|Rhufeiniaid]] ar [[Lyons]] ([[Ffrainc]]) oedd Lugudunum (''Caer Lleu'') a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl ''Lughnasadh'' tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac [[amaethyddiaeth]] a chyneuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.<ref name="ReferenceA">Gwyn Thomas, ''Duwiau'r Celtiaid'', Llafar Gwlad 24.</ref>


Dynodai Lugnasad ddechrau tymor y [[cynhaeaf]] ac fe'i dethlid gyda gwleddoedd mawr cyhoeddus. Yn ôl y ''[[Sanas Chormaic]]'' (''Gloseg Cormac'') gan yr esgob [[Cormac]], cafodd Lugnasad ei sefydlu gan Lug mac Ethnenn ei hun yn y cyfnod [[cynhanes]]yddol. Cydnabyddir fod yr enw yn tarddu o enw Lugh.<ref>Gwyn Thomas, ''Duwiau'r Celtiaid'', Llafar Gwlad 24.</ref>
Dynodai Lugnasad ddechrau tymor y [[cynhaeaf]] ac fe'i dethlid gyda gwleddoedd mawr cyhoeddus. Yn ôl y ''[[Sanas Chormaic]]'' (''Gloseg Cormac'') gan yr esgob [[Cormac]], cafodd Lugnasad ei sefydlu gan Lug mac Ethnenn ei hun yn y cyfnod [[cynhanes]]yddol. Cydnabyddir fod yr enw yn tarddu o enw Lugh.<ref name="ReferenceA"/>


== Lammas ==
== Lammas ==

Fersiwn yn ôl 18:36, 8 Mawrth 2013

Dethlir Gŵyl Galan Awst ar y cyntaf o Awst. Yn ei gwreiddiau, mae'n ŵyl Geltaidd hynafol a gafodd ei chymryd drosodd gan yr Eglwys Gristnogol yn yr Oesoedd Canol fel sawl gŵyl baganaidd arall. Gelwir hi hefyd wrth yr enw Gwyddeleg Lughnasadh (weithiau hefyd Lugnasad, sy'n cyfateb i raddau i ŵyl Lammas yn nhraddodiadau'r Alban a Lloegr).

Yn Canzo, yng ngogledd yr Eidal, mae'r trigolion lleol yn dal i ddathlu'r festa del sole ar y diwrnod yma ac felly hefyd yn y Swistir lle ceir gŵyl banc genedlaethol ar y diwrnod hwn a chynnau coelcerthi.

Lugnasad

Yng Ngwyddeleg, adnabyddir Gŵyl Galan Awst fel Lughnasadh. Fe'i chysylltir â'r duw Lleu neu Lug/Lugh (yn enwedig Lug mac Ethnenn). Enw'r Rhufeiniaid ar Lyons (Ffrainc) oedd Lugudunum (Caer Lleu) a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl Lughnasadh tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac amaethyddiaeth a chyneuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.[1]

Dynodai Lugnasad ddechrau tymor y cynhaeaf ac fe'i dethlid gyda gwleddoedd mawr cyhoeddus. Yn ôl y Sanas Chormaic (Gloseg Cormac) gan yr esgob Cormac, cafodd Lugnasad ei sefydlu gan Lug mac Ethnenn ei hun yn y cyfnod cynhanesyddol. Cydnabyddir fod yr enw yn tarddu o enw Lugh.[1]

Lammas

Dethlid gŵyl gyffelyb yn yr Alban a Lloegr wrth yr enw Lammas neu Lammas Day. Byddai pobl yn dod â thorth wedi'i gwneud o'r gwenith cyntaf i gael ei fedi i'r eglwys fel offrwm ar y 1af o Awst.[2]

Llyfryddiaeth

  • M. MacNéill, The Festival of Lughnasa (Dulyn, ail arg., 1982)

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Gwyn Thomas, Duwiau'r Celtiaid, Llafar Gwlad 24.
  2. J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983), d.g. Lammas Day.

Gweler hefyd