Bracla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
+nodyn |
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q4953718 (translate me) |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[Categori:Cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr]] |
[[Categori:Cymunedau Pen-y-bont ar Ogwr]] |
||
{{eginyn Pen-y-bont ar Ogwr}} |
{{eginyn Pen-y-bont ar Ogwr}} |
||
[[en:Brackla]] |
Fersiwn yn ôl 18:30, 8 Mawrth 2013
Pen-y-bont ar Ogwr Bragle |
|
Mae Bragle, neu Bracla, (Saesneg: Brackla) yn un o faestrefi Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gymuned, i'r dwyrain o'r dref ei hun. Ystad breswyl enfawr ac iddi oddeutu 12,000 o drigolion yw hi sydd ar lethr deheuol Bryn Bragle.
Fe'i codwyd ar diroedd Tŷ Waunscil a Fferm Tremaen. Cododd y cyngor lleol yr ystad wreiddiol yn y gorllewin o amgylch chwarel Tremaen yn y 50au, ond codwyd y rhan fwyaf o'r ystad gan gwmnïau preifat o'r 70au ymlaen. O dan yr ystad mae nifer o dwnelau a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd i storio arfau a gynhyrchwyd yn ffatri Tredŵr gerllaw. Defnyddiwyd rhai o'r twnelau wedyn gan GCHQ. Mae nifer o nentydd bychain yn codi o ffynhonnau yn y galchfaen sydd yn y bryn ac yn llifo i lawr i Afon Ewenni yn Nhredŵr. Yr un fwyaf yw Nant Sana.
Mae'r ystad yn dal i ehangu ar weddill tiroedd Fferm Tremaen (sy'n cynnwys y ffermdy ei hun!) ac ar draws dolau Nant Morfa tuag at bentref Coety i'r gogledd.
Ysgolion
Mae yna bedair ysgol ar yr ystad.
- Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr
- Ysgol Archddeon John Lewis yr Eglwys yng Nghymru
- Ysgol Gynradd Tremaen
- Ysgol Gynradd Bragle
Dolen allanol
Trefi
Maesteg · Pen-coed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontycymer · Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bracla · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefncribwr · Cwmogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Gogledd Corneli · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynyddcynffig · Nant-y-moel · Notais · Pen-y-fai · Y Pîl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre