Llenyddiaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
newidiadau man using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Llenyddiaeth Cymru.png|thumb|250px|Logo '''Llenyddiaeth Cymru''']]
[[Delwedd:Llenyddiaeth Cymru.png|thumb|250px|Logo '''Llenyddiaeth Cymru''']]
[[Delwedd:Yr Academi Gymreig.jpg|thumb|250px|Logo diweddaraf '''Yr Academi Gymreig''']]
[[Delwedd:Yr Academi Gymreig.jpg|thumb|250px|Logo diweddaraf '''Yr Academi Gymreig''']]
[[Delwedd:Logo_Academi.gif|thumb|250px|Hen logo'r '''Academi''']]
[[Delwedd:Logo Academi.gif|thumb|250px|Hen logo'r '''Academi''']]


:''Am erthygl ar lenyddiaeth Gymraeg gweler: [[Llenyddiaeth Gymraeg]]; am lenyddiaeth Saesneg Cymru [[Llenyddiaeth Saesneg Cymru|gweler yma]].''
:''Am erthygl ar lenyddiaeth Gymraeg gweler: [[Llenyddiaeth Gymraeg]]; am lenyddiaeth Saesneg Cymru [[Llenyddiaeth Saesneg Cymru|gweler yma]].''
Llinell 21: Llinell 21:
* [[Gwobr yr Academi Gymreig]]
* [[Gwobr yr Academi Gymreig]]
* [[Gwobr John Tripp]]
* [[Gwobr John Tripp]]
* [[Geiriadur yr Academi]] (Saesneg : The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) a gyhoeddir gan [[Gwasg Prifysgol Cymru|Wasg Prifysgol Cymru]]
* [[Geiriadur yr Academi]] (Saesneg : The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) a gyhoeddir gan [[Gwasg Prifysgol Cymru|Wasg Prifysgol Cymru]]
* [[Cyfres yr Academi]] Prif lyfrau Ewrop [[Cyfieithiadau i'r Gymraeg]]
* [[Cyfres yr Academi]] Prif lyfrau Ewrop [[Cyfieithiadau i'r Gymraeg]]
* Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig
* Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig

Fersiwn yn ôl 14:39, 8 Mawrth 2013

Logo Llenyddiaeth Cymru
Logo diweddaraf Yr Academi Gymreig
Hen logo'r Academi
Am erthygl ar lenyddiaeth Gymraeg gweler: Llenyddiaeth Gymraeg; am lenyddiaeth Saesneg Cymru gweler yma.

Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru yw Llenyddiaeth Cymru (Saesneg: Literature Wales) ac ariannir hi yn bennaf o ffynonellau cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gynnal, ymhlith pethau eraill, cyrsiau, cynadleddau, darlleniadau, cystadleuthau a gweinyddu anrhydeddau (megis Llyfr y Flwyddyn). Nhw sydd hefyd yn gyfrifol am Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Y Prif Weithredwr ers Tachwedd 2011 yw Lleucu Siencyn[1]

Hanes

Sefydlwyd yr Academi Gymreig, neu'r Academi fel y'i gelwyd yn gyffredinol, ym 1959 gan Bobi Jones a Waldo Williams. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg er sicrhau y byddai awduron Cymreig a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Saesneg yn gallu bod yn aelodau. Ym 1968, crëwyd adran benodol i'r Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, sef Meic Stephens, ar y cyd gydag aelodau o’r Guild of Welsh Writers.

Yr Academi a gyhoeddodd Gwyddoniadur Cymru yn 2008, ac fe'i gyhoeddir yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda chefnogaeth ariannol y Loteri. Roeddent eisioes wedi cyhoeddi Geiriadur yr Academi ym 1995.

Ymunodd yr Academi â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i greu sefydliad cenedlaethol newydd a elwir Llenyddiaeth Cymru yn 2011.[2]

Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r llyfrau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Mae'r gwobrwyon yn cael eu rhoi i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Yn 2012, fe wobrwyir cyfrolau Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2011 o fewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Teitl y wobr farddoniaeth Saesneg, yw Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias.

Gweithgareddau

Mae eu gweithgareddau'n cynnwys;

Cyhoeddiadau

Mae'r Academi Gymreig yn cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol Taliesin (cylchgrawn) yn ogystal a gweithiau llenyddol gwreiddiol. Defnyddiodd yr Academi Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a Geiriadur yr Academi. Trwy gyfrwng Gwasg Prifysgol Rhydychen cyhoeddwyd The Oxford Companion to the Literature of Wales. Mae fersiwn diwygiedig o’r gwaith pwysig hwn ar gael bellach gan Wasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg yn 1997 a'r fersiwn newydd Saesneg yn 1998.[3]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.