Thomas Jefferson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dileu dol ddwbl
→‎Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB
Llinell 33: Llinell 33:
{{ArlywyddionUDA}}
{{ArlywyddionUDA}}


{{DEFAULTSORT:Jefferson, Thomas}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|dv}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|dv}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|fr}}
{{Cyswllt erthygl ddethol|fr}}


{{DEFAULTSORT:Jefferson, Thomas}}
[[Categori:Thomas Jefferson| ]]
[[Categori:Thomas Jefferson| ]]
[[Categori:Americanwyr Cymreig]]
[[Categori:Americanwyr Cymreig]]

Fersiwn yn ôl 14:18, 8 Mawrth 2013

Thomas Jefferson
Thomas Jefferson


Cyfnod yn y swydd
4 Mawrth 1801 – 4 Mawrth 1809
Is-Arlywydd(ion)   Aaron Burr (1801–1805)
George Clinton (1805–1809)
Rhagflaenydd John Adams
Olynydd James Madison

Geni 13 Ebrill 1743
Shadwell, Virginia, UDA
Plaid wleidyddol Democrataidd-Weriniaethol
Priod Martha Wayles Skelton Jefferson
Llofnod

Thomas Jefferson (13 Ebrill 1743 - 4 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1801 hyd 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Prifysgol Virginia.

Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl y Calendr Gregoraidd a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.

Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.

Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwe phlentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings, a phrofwyd hyn gan dystiolaeth DNA ym 1998,[1] ond mae ychydig o ysgolheigion yn dadlau'r posibilrwydd taw brawd neu un o neiod Jefferson oedd tad y plant.[2] Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.

Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hanu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.

Cyfeiriadau

  1. Foster, EA; Jobling MA, Taylor PG, Donnelly P, de Knijff P, Mieremet R, Zerjal T, Tyler-Smith C (1998). "Jefferson fathered slave's last child". Nature 396 (6706): 27–28. doi:10.1038/23835. PMID 9817200. http://www.familytreedna.com/pdf/Jeffersons.pdf.
  2. "The Scholars Commission on the Jefferson-Hemings Issue", 2001, Thomas Jefferson Heritage Society

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol