Afon Hafren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makecat-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: he:סוורן (נהר)
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 42 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q19682 (translate me)
Llinell 11: Llinell 11:
[[Categori:Afonydd Swydd Amwythig|Hafren]]
[[Categori:Afonydd Swydd Amwythig|Hafren]]
{{eginyn daearyddiaeth}}
{{eginyn daearyddiaeth}}

[[ang:Sæfern]]
[[be:Рака Северн]]
[[bg:Севърн]]
[[br:Hafren]]
[[ca:Riu Severn]]
[[cs:Severn (přítok Bristolského zálivu)]]
[[da:Severn]]
[[de:Severn]]
[[en:River Severn]]
[[eo:Severn]]
[[es:Río Severn (Reino Unido)]]
[[et:Severn]]
[[eu:Severn ibaia]]
[[fi:Severn]]
[[fr:Severn]]
[[fy:Severn]]
[[he:סוורן (נהר)]]
[[hu:Severn]]
[[hy:Սևերն]]
[[it:Severn]]
[[ja:セヴァーン川]]
[[ka:სევერნი (მდინარე)]]
[[ko:세번 강]]
[[la:Sabrina]]
[[lb:Severn]]
[[lt:Severnas (Anglija)]]
[[mk:Северн]]
[[nl:Severn]]
[[nn:Severn]]
[[no:Severn]]
[[pl:Severn]]
[[pt:Rio Severn]]
[[ru:Северн]]
[[sh:Severn]]
[[sk:Severn (prítok Bristolského zálivu)]]
[[sr:Северн]]
[[sv:Severn]]
[[th:แม่น้ำเซเวิร์น]]
[[tr:Severn Nehri]]
[[uk:Северн]]
[[yi:סעווערן]]
[[zh:塞文河]]

Fersiwn yn ôl 13:43, 8 Mawrth 2013

Tarddle Afon Hafren ar lethrau Pumlumon.
Pont Hafren dros Afon Hafren rhwng Cymru a Lloegr

Afon hwyaf ar Ynys Prydain yw Afon Hafren (Saesneg River Severn), 354 km (219 milltir) o hyd. Mae'n tarddu yng nghanolbarth Cymru cyn llifo trwy orllewin Lloegr am ran o'i chwrs a llifo i Fôr Hafren rhwng Caerdydd a Weston Super Mare.

Mae Afon Hafren yn tarddu ar lethrau gogleddol Pumlumon ger Llanidloes, ar uchder o 610 medr. Nid yw tarddle Afon Gwy ymhell, ar lethrau deheuol Pumlumon. Mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain trwy Goedwig Hafren. Ychydig cyn cyrraedd Llanidloes mae Afon Dulas yn ymuno â hi ac yna yn nhref Llanidloes ei hun mae Afon Clywedog yn ymuno. O Lanidloes mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio Llandinam a Chaersws, lle mae Afon Carno yn ymuno. Mae'n llifo trwy'r Drenewydd a heibio Castell Dolforwyn ac Aber-miwl ac yna trwy'r Trallwng. Am ychydig filltiroedd mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yna mae'n croesi i Loegr, lle mae'n parhau tua'r dwyrain i lifo trwy Amwythig. Mae wedyn yn llifo heibio Ironbridge a Bridgnorth, Stourport-on-Severn ac yna Caerwrangon, lle mae Afon Tefeidiad yn ymuno â hi ychydig i'r de o'r ddinas, a Tewkesbury. Mae'n llifo tua'r de heibio Caerloyw cyn cyrraedd yr aber ym Môr Hafren, lle mae'n gwahanu Cymru a Lloegr.

Mae sawl pont nodedig, yn enwedig pontydd haearn Llandinam ac Ironbridge, Pont Hafren ac Ail Groesfan Hafren, a thwnnel rheilffordd yn croesi'r afon.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.