Y Blew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Maelor (sgwrs | cyfraniadau)
B typo
→‎Aelodau'r band: newidiadau man using AWB
Llinell 12: Llinell 12:
Cewch gyfle hefyd i wrando ar eu cerddoriaeth yn yr Oriel Un newydd yn Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.
Cewch gyfle hefyd i wrando ar eu cerddoriaeth yn yr Oriel Un newydd yn Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.


{{DEFAULTSORT:Blew, Y}}
{{Eginyn Cerddoriaeth Cymru}}
{{Eginyn Cerddoriaeth Cymru}}


{{DEFAULTSORT:Blew, Y}}
[[Categori:Bandiau Cymreig]]
[[Categori:Bandiau Cymreig]]

Fersiwn yn ôl 10:53, 8 Mawrth 2013

Band roc Cymraeg arloesol cynnar oedd Y Blew. Fe'i sefydlwyd ym Mhasg 1967, gan bedwar o fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Aberystwyth, wedi syrffedu'n lan ar natur siwgraidd, di-fôls y byd pop Cymraeg fel yr oedd ar y pryd (grŵpiau megis Tony ac Aloma, y Pelydrau, yr holl "Hogiau", ac yn y blaen). Cynhalwyd gig arloesol yn neuadd Talybont, Pasg 1967. Er mwyn cael yr offer i ddatblygu ymhellach, bu'n rhaid i'r band benthyca a chrafu. Trefnwyd taith haf llwyddianus yn y Blewfan, gan gynnwys ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Recordiwyd Maes B, eu hunig disg, yn ystod yr haf hwnnw. Rhoed y gorau iddi yn yr hydref, ac ad-dalwyd yr holl ddyledion i bawb.

Aelodau'r band

  • Prif leisydd: Maldwyn Pate,
  • Gitar Flaen: Richard Lloyd,
  • Gitar Fas: Dafydd Prys Evans (mab Gwynfor Evans),
  • Allweddellau: Dave Williams,
  • Drymiau: Geraint Evans/Topsi.

Roedd trefnu'r daith gigs yh hollol broffesiynnol, llogwyd byrddau hysbysebu enfawr ymhobman a dosbarthwyd miloedd o daflenni "dayglo" yn cyhoeddi "Mae'r Blew yn dod". Mae rhai o'r memorobilia hyn i'w gweld yn yr arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Cewch gyfle hefyd i wrando ar eu cerddoriaeth yn yr Oriel Un newydd yn Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato