Medb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: pl:Medb |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Roedd Medb yn ferch i [[Eochaid Feidlech]], [[Uchel Frenin Iwerddon]]. Priododd nifer o weithiau. Ei gŵr cyntaf oedd [[Conchobar mac Nessa]] o [[Ulster]], ond ni pharhaodd y briodas yn hir. Priododd Conchobar chwaer Medb, Eithne, wedyn, ond llofruddiodd Medb hi. |

[[Image: |
[[Image:sligo medb.jpg|200px|bawd|chwith|'Carnedd Medb' ar ben Cnoc na Riabh, [[Swydd Galway]].]] |
||
Mae Medb ac un arall o'i gwŷr, [[Ailill mac Mágach|Ailill]] yn ymddangos yn y ''Táin Bó Cúailnge''. Pan mae Medb ac Ailill yn cymharu eu cyfoeth, maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw [[Finnbhennach]]. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog [[Donn Cuailnge]] o Cúailnge (Cooley). |

Llinell 15: | Llinell 15: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
* [[Thomas Kinsella]]''The Tain'' (1969). |
* [[Thomas Kinsella]]''The Tain'' (1969). |
||
[[Categori:Duwiesau]] |
[[Categori:Duwiesau]] |
Fersiwn yn ôl 07:47, 8 Mawrth 2013
Ym mytholeg Iwerddon, Medb (Gwyddeleg: hefyd Meabh neu Maeve) yw brenhines teyrnas Connacht yng ngorllewin Iwerddon. Mae ganddi ran amlwg yn y Táin Bó Cúailnge ("Cyrch Gwartheg Cúailnge"), un o'r gweithiau pwysicaf yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Credir gan rai mytholegwyr ei bod yn wreiddiol yn dduwies sofraniaeth - agwedd ar Dduwies y Ddaear - a bod y brenin yn ei phriodi yn seremonïol.
Roedd Medb yn ferch i Eochaid Feidlech, Uchel Frenin Iwerddon. Priododd nifer o weithiau. Ei gŵr cyntaf oedd Conchobar mac Nessa o Ulster, ond ni pharhaodd y briodas yn hir. Priododd Conchobar chwaer Medb, Eithne, wedyn, ond llofruddiodd Medb hi.
Mae Medb ac un arall o'i gwŷr, Ailill yn ymddangos yn y Táin Bó Cúailnge. Pan mae Medb ac Ailill yn cymharu eu cyfoeth, maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw Finnbhennach. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog Donn Cuailnge o Cúailnge (Cooley).
Mae melltith ar wŷr Wlster, a'r unig un sydd ar gael i amddiffyn Wlster yw'r arwr dwy ar bymtheg oed Cúchulainn. Llwydda byddin Connacht i gipio'r tarw tra mae Cúchulainn yn cyfarfod merch, ond mae Cúchulainn yn galw ar yr hen hawl i fynnu ymladd un yn erbyn un ger rhyd. Pery'r ymladd am fisoedd, gyda Cúchulainn yn gorchfygu rhyfelwyr gorau Connacht un ar ôl y llall.
Yn y diwedd mae rhyfelwyr Wlster yn dechrau deffro, a gorfodir byddin Medb i encilio. Maent yn llwyddo i ddwyn Donn Cuailnge yn ôl i Connacht, ond wedi cyrraedd yno mae'n ymladd a Finnbhennach. Lleddir Finnbhennach, ond mae Donn Cuailnge ei hun yn cael ei glwyfo'n farwol.
Lladdwyd Medb gan Furbaide, mab Eithne, fel dial am lofruddiaeth ei fam. Yn ôl y chwedl, claddwyd hi dan garnedd 40 troedfedd o uchder ar gopa Cnoc na Riabh (Saesneg: Knocknarea) ger Sligo.
Llyfryddiaeth
- Thomas KinsellaThe Tain (1969).