Rhazes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn newid: da:Muhammad ibn Zakariya al-Razi, kk:Закария әр-Рази |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Enwir ''Sefydliad Razi'' yn [[Tehran]], a Phrifysgol Razi yn [[Kermanshah]] ar ei ôl, a dethlir 'Gŵyl Razi' ('Diwrnod Fferylliaeth') yn Iran ar [[27 Awst]]. |
Enwir ''Sefydliad Razi'' yn [[Tehran]], a Phrifysgol Razi yn [[Kermanshah]] ar ei ôl, a dethlir 'Gŵyl Razi' ('Diwrnod Fferylliaeth') yn Iran ar [[27 Awst]]. |
||
⚫ | |||
[[Categori:Meddygon|Razi]] |
[[Categori:Meddygon|Razi]] |
||
Llinell 15: | Llinell 17: | ||
[[Categori:Genedigaethau 865|Razi]] |
[[Categori:Genedigaethau 865|Razi]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 925|Razi]] |
[[Categori:Marwolaethau 925|Razi]] |
||
⚫ | |||
[[ar:أبو بكر الرازي]] |
[[ar:أبو بكر الرازي]] |
Fersiwn yn ôl 07:44, 8 Mawrth 2013
Ysgolhaig a gwyddonydd amryddawn oedd Abū Bakr Muhammad ibn Zakarīya al-Rāzi (Persieg: زكريای رازی Zakaria ye Razi; Arabeg: ابو بکر محمد بن زكريا الرازی; Lladin: Rhazes neu Rasis). Yn ôl y croniclydd al-Biruni cafodd ei eni yn Rayy, Iran yn y flwyddyn 865 (251 AH), a bu farw yno yn 925 (313 AH) (neu 930 yn ôl rhai ffynonellau).
Roedd Razi yn ysgolhaig, ffisegydd ac athronydd amlochrog ac amryddawn a wnaeth gyfraniadau pwysig a phellgyrhaeddol ym meysydd meddygaeth, alcemi, ac athroniaeth. Cyhoeddodd dros 184 o lyfrau ac erthyglau. Un o'i ddarganfyddiadau pwysicaf oedd alcohol. Roedd o gefndir diwylliedig iawn ac yn gyfarwydd â meddygaeth Roeg. Credir iddo ddarganfod asid swlffwrig ac ethanol hefyd. Roedd Razi yn un o feddylwyr mwyaf y byd Islamaidd. Cafodd ddylanwad aruthrol ar ei gyfoeswyr a'i olynwyr yn ogystal ac ar wyddoniaeth a meddygaeth Ewrop trwy'r cyfieithiadau Lladin o'i waith.
Rhesymegydd rhyddfrydol oedd Razi. Fe'i ystyrid gan ei gyfoeswyr a'i bywgraffyddwyr yn ddyn rhydd o bob rhagfarn, chwim a threiddgar ei feddwl a di-flewyn ar dafod. Fel nifer o Ewropeiaid yn ystod y Dadeni Dysg credai yn y ddynoliaeth, cynydd a "Duw Doeth". Teithiodd yn eang a gwasanaethai sawl tywysog a llywodraethwr yn y byd Islamaidd. Fe'i cysylltir yn arbennig â Baghdad lle sefydlodd ei labordy. Deuai nifer o ddisgyblion ato i gael ei gyngor a rhannu o'i wybodaeth a roddai i bawb yn ddiwahân, tlawd a chyfoethog fel ei gilydd.
Enwir Sefydliad Razi yn Tehran, a Phrifysgol Razi yn Kermanshah ar ei ôl, a dethlir 'Gŵyl Razi' ('Diwrnod Fferylliaeth') yn Iran ar 27 Awst.