Cicero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid io:Marcus Tullius Cicero yn io:Cicero |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd '''Marcus Tullius Cicero''' (3 Ionawr 106 CC – 7 Rhagfyr 43 CC). |
Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd '''Marcus Tullius Cicero''' (3 Ionawr 106 CC – 7 Rhagfyr 43 CC). |
||
Ganed Cicero yn [[Arpinum]] (Arpino heddiw), tua 100 |
Ganed Cicero yn [[Arpinum]] (Arpino heddiw), tua 100 km i'r de o [[Rhufain|Rufain]]. Roedd yn deulu yn uchelwyr lleol, gyda chysylltiad pell ag un arall o enwogion Arpinum, [[Gaius Marius]],ond heb gysylltiad a'r teuluoedd [[Senedd Rhufain|seneddol]]. Bu'n astudio'r gyfraith dan [[Quintus Mucius Scaevola Augur|Quintus Mucius Scaevola]], a dywed [[Plutarch]] ei fod yn fyfyriwr eithriadol o alluog. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr tua 83-81 CC; ei achos llys pwysig cyntaf oedd amddiffyn [[Sextus Roscius]] ar gyhuddiad o lofruddio ei dad. Ymhlith y bobl a gyhuddwyd gan Cicero fel y gwir lofruddion roedd [[Lucius Cornelius Chrysogonus|Chrysogonus]], ffefryn [[Lucius Cornelius Sulla]] oedd yn feistr Rhufain ar y pryd. |
||
Yn [[79 CC]], aeth Cicero i [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]], [[Asia Leiaf]] a [[Rhodos]], a threuliodd amser yn astudio rhethreg dan [[Apollonius Molon|Molon o Rhodos]]. Wedi dychwelyd i Rufain, fe'i hetholwyd yn [[quaestor]] yn [[75 CC]], gan wasanaethu yn [[Sicilia]]. Gofynnodd y Siciliaid iddo eu cynrychioli i erlyn [[Gaius Verres]], llywodraethwr Sicilia oedd wedi ymgyfoethogi ar draul y wlad. Bu'r achos yn erbyn Verres yn [[70 CC]] yn llwyddiant mawr i Cicero, a daeth yn enwog yn Rhufain. |
Yn [[79 CC]], aeth Cicero i [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]], [[Asia Leiaf]] a [[Rhodos]], a threuliodd amser yn astudio rhethreg dan [[Apollonius Molon|Molon o Rhodos]]. Wedi dychwelyd i Rufain, fe'i hetholwyd yn [[quaestor]] yn [[75 CC]], gan wasanaethu yn [[Sicilia]]. Gofynnodd y Siciliaid iddo eu cynrychioli i erlyn [[Gaius Verres]], llywodraethwr Sicilia oedd wedi ymgyfoethogi ar draul y wlad. Bu'r achos yn erbyn Verres yn [[70 CC]] yn llwyddiant mawr i Cicero, a daeth yn enwog yn Rhufain. |
||
Llinell 70: | Llinell 70: | ||
* De officiis |
* De officiis |
||
* De fato |
* De fato |
||
* De finibus bonorum et malorum |
* De finibus bonorum et malorum |
||
* [[Tusculanae disputationes]] |
* [[Tusculanae disputationes]] |
||
* De natura deorum |
* De natura deorum |
||
* Paradoxa Stoicorum |
* Paradoxa Stoicorum |
||
Llinell 88: | Llinell 88: | ||
* Marius |
* Marius |
||
* De consulatu suo |
* De consulatu suo |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[Categori:Genedigaethau 106 CC]] |
[[Categori:Genedigaethau 106 CC]] |
||
Llinell 96: | Llinell 100: | ||
[[Categori:Llenorion]] |
[[Categori:Llenorion]] |
||
[[Categori:Llenyddiaeth Ladin Glasurol]] |
[[Categori:Llenyddiaeth Ladin Glasurol]] |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[af:Cicero]] |
[[af:Cicero]] |
Fersiwn yn ôl 23:04, 7 Mawrth 2013
Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd Marcus Tullius Cicero (3 Ionawr 106 CC – 7 Rhagfyr 43 CC).
Ganed Cicero yn Arpinum (Arpino heddiw), tua 100 km i'r de o Rufain. Roedd yn deulu yn uchelwyr lleol, gyda chysylltiad pell ag un arall o enwogion Arpinum, Gaius Marius,ond heb gysylltiad a'r teuluoedd seneddol. Bu'n astudio'r gyfraith dan Quintus Mucius Scaevola, a dywed Plutarch ei fod yn fyfyriwr eithriadol o alluog. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr tua 83-81 CC; ei achos llys pwysig cyntaf oedd amddiffyn Sextus Roscius ar gyhuddiad o lofruddio ei dad. Ymhlith y bobl a gyhuddwyd gan Cicero fel y gwir lofruddion roedd Chrysogonus, ffefryn Lucius Cornelius Sulla oedd yn feistr Rhufain ar y pryd.
Yn 79 CC, aeth Cicero i Wlad Groeg, Asia Leiaf a Rhodos, a threuliodd amser yn astudio rhethreg dan Molon o Rhodos. Wedi dychwelyd i Rufain, fe'i hetholwyd yn quaestor yn 75 CC, gan wasanaethu yn Sicilia. Gofynnodd y Siciliaid iddo eu cynrychioli i erlyn Gaius Verres, llywodraethwr Sicilia oedd wedi ymgyfoethogi ar draul y wlad. Bu'r achos yn erbyn Verres yn 70 CC yn llwyddiant mawr i Cicero, a daeth yn enwog yn Rhufain.
Etholwyd ef yn gonswl yn 63 CC. Yn ystod ei gyfnod fel conswl, llwyddodd i ddatgelu cynllwyn gan gefnogwyr Lucius Sergius Catilina yn erbyn y wladwriaeth. Ffôdd Catilina pan draddododd Cicero araith yn ei erbyn yn y Senedd, a dienyddiwyd nifer o'i ganlynwyr.
Yn 61 CC gwahoddodd Iŵl Cesar ef i fod yn bedwerydd yn ei bartneriaeth gyda Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus, ond gwrthododd Cicero. Yn 58 CC cyhoeddodd Publius Clodius Pulcher, tribwn y bobl, ddeddf yn alltudio unrhyw un oedd wedi dienyddio dinasyddion Rhufeinig heb eu rhoi ar brawf. Roedd Cicero wedi gwneud hyn adeg cynllwyn Catilina, a bu raid iddo adael am Wlad Groeg. Dychwelodd i Rufain yn 57 CC.
Amddiffynnodd Cicero Milo ar gyhuddiad o lofruddio, ac ystyrir ei araith Pro Milone yn un o'i gampweithiau. Er hynny, alltudiwyd Milo. Erbyn 50 CC roedd y berthynas rhwng Cesar a Pompeius wedi dirywio, a rhoddodd Cicero ei gefnogaeth i Pompeius. Yn y cyfnod wedi llofruddiaeth Cesar yn 44 CC, cyhoeddodd gyfres o ymosodiadau ar Marcus Antonius, y Philippicau.
Pan ddaeth Antonius ac Octavianus i gytundeb i rannu grym, cyhoddwyd enw Cicero ar restr o elynion. Daliwyd ef wrth iddo adael ei fila yn Formiae ar ei ffordd tua'r porthladd i geisio dianc, a lladdwyd ef.
Gwaith llenyddol
Areithiau:
- Pro Quinctio
- Pro Roscio Amerino
- Pro Roscio Comodeo
- De lege agraria contra Rullum
- In Verrem
- De Imperio Cn. Pompei
- Pro Caecina
- Pro Cluentio
- Pro Rabirio perduellionis reo
- In Catilinam I-IV
- Pro Murena
- Pro Sulla
- Pro Flacco
- Pro Archia poeta
- Post reditum in senatu
- Post reditum in Quirites
- De domo sua
- De haruspicum responsis
- Pro Cn. Plancio
- Pro Sestio
- In Vatinium
- Pro Caelio
- De provinciis consularibus
- Pro Balbo
- Pro Milone
- In Pisonem
- Pro Scauro
- Pro Fonteio
- Pro Rabirio Postumo
- Pro Marcello
- Pro Ligario
- Pro rege Deiótaro
- Philippicae quae dicuntur in M. Antonium orationes I–XIV
Rhethreg:
- De inventione
- De partitione oratoria
- De optimo genere oratorum
- Topica
- Brutus
- De oratore
- Orator
Gweithiau athronyddol a gwleidyddol:
- De re publica
- Somnium Scipionis ('Breuddwyd Scipio')
- De legibus
- Hortensius
- Academici libri
- De officiis
- De fato
- De finibus bonorum et malorum
- Tusculanae disputationes
- De natura deorum
- Paradoxa Stoicorum
- Lucullus
- Laelius de amicitia
- Cato maior de senectute
Epistolau:
Cerddi:
- Arati Phaenomena (cerddi ar seryddiaeth)
- Marius
- De consulatu suo
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol