Ynys Gybi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: it:Holyhead Island |
→Dolenni allanol: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
*[http://www.jncc.gov.uk/protectedsites/SACselection/sac.asp?EUCode=UK0013046 Cadwraeth ar Ynys Gybi] |
*[http://www.jncc.gov.uk/protectedsites/SACselection/sac.asp?EUCode=UK0013046 Cadwraeth ar Ynys Gybi] |
||
⚫ | |||
[[Categori:Daearyddiaeth Ynys Môn]] |
[[Categori:Daearyddiaeth Ynys Môn]] |
||
[[ |
[[Categori:Ynysoedd Cymru|Gybi]] |
||
⚫ | |||
[[br:Enez Cybi]] |
[[br:Enez Cybi]] |
Fersiwn yn ôl 22:29, 7 Mawrth 2013
Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 1.8 milltir sgwar. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,579.
Daearyddiaeth
Y dref fwyaf ar yr ynys yw Caergybi, sy'n borthladd pwysig ers canrifoedd a lleoliad yr harbwr ar gyfer y llongau fferi i Iwerddon. Mynydd Twr (722') yw bryn uchaf Ynys Gybi a Môn.
Ceir nifer o glogwynni ar hyd yr arfordir gorllewinol gydag ynysoedd bychain fel Ynys Lawd, gyda'i goleudy enwog, ac Ynys Arw. Cafwyd nifer o londdrylliadau dros y blynyddoedd.
Cludiant
Cysylltir Ynys Gybi â thir mawr Môn gan sarnau sy'n dwyn y briffordd A5/A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n cysylltu Caergybi â Chaer a Llundain, a phont wreiddiol yr hen ffordd doll (A5). Yn ogystal ceir Pontrhydybont, a groesir gan ffordd 'B' ac sy'n llawer llai.
O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i Dún Laoghaire a Dulyn, yn Iwerddon.
Gorwedd tua 30 milltir o Llwybr Arfordirol Ynys Môn (125 milltir) ar Ynys Gybi.