Melangell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun gwell?
→‎Dolenni allanol: newidiadau man using AWB
Llinell 10: Llinell 10:
==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
*[http://www.st-melangell.org.uk/Cymraeg/Eglwys/eglwys.htm Gwefan Eglwys Santes Melangell, Pennant Melangell.]
*[http://www.st-melangell.org.uk/Cymraeg/Eglwys/eglwys.htm Gwefan Eglwys Santes Melangell, Pennant Melangell.]



[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Seintiau Cymru]]

Fersiwn yn ôl 20:13, 7 Mawrth 2013

Creirfa Melangell yn Eglwys Pennant Melangell

Santes Gymreig o'r 6ed neu'r 7fed ganrif oedd Melangell (Lladin:Monacella). Mae buchedd Ladin iddi, Historia Divae Monacellae, ar gael, yn dyddio o tua'r 15fed ganrif.

Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon ac yn ferch i frenin. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw fel meudwyes ym mhen uchaf dyffryn Afon Tanad. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai Brochwel Ysgithrog) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn Bennant Melangell iddi.

Daeth Melangell yn abades mynachlog fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain.

Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn y Canol Oesoedd, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod.

Dolenni allanol