Euddogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
→Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*G. H. Doble. (1971). ''Lives of the Welsh Saints'', gol. D. Simon Evans. |
*G. H. Doble. (1971). ''Lives of the Welsh Saints'', gol. D. Simon Evans. |
||
*''Vita Beati Oudocei'': J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Book of Llandâv'' (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979). |
*''Vita Beati Oudocei'': J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Book of Llandâv'' (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979). |
||
[[Categori:Seintiau Cymru]] |
[[Categori:Seintiau Cymru]] |
Fersiwn yn ôl 20:12, 7 Mawrth 2013
Sant neu esgob Cymreig oedd Euddogwy (Lladin: Oudoceus) (blodeuai tua diwedd y 6ed ganrif).
Ceir buchedd iddo, y Vita Beati Oudocei, yn Llyfr Llandaf, lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o Lydaw, ac Anauued, chwaer sant Teilo. Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint a mynd ar bererindod i Rufain, ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd esgobaeth newydd Llandaf, a sefydlwyd gan y Normaniaid, i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys Gymreig. Ei wylmabsant yw 2 Gorffennaf.
Barn G.H. Doble oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn Llandaf yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llaneuddogwy (Llandogo) yng Ngwent, ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.
Llyfryddiaeth
- G. H. Doble. (1971). Lives of the Welsh Saints, gol. D. Simon Evans.
- Vita Beati Oudocei: J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).