Robert Fitzhamon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: sh:Robert Fitzhamon |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Ail-sefydlodd Abaty [[Tewkesbury]] yn 1092. Cymerwyd ef yn garcharor yn [[Normandi]] ger [[Bayeux]] yn [[1105]]. Llwyddodd y brenin [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] i'w ryddhau, ac aethant ymlaen i warchae ar [[Falaise]]. Clwyfwyd Fitzhamon yn ei ben yn ddifrifol yno, a bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach. |

[[ |
[[Categori:Y Normaniaid yng Nghymru|FitzHamon, Robert]] |
||
[[ |
[[Categori:Teyrnas Morgannwg|FitzHamon, Robert]] |
||
[[de:Robert Fitzhamon]] |
[[de:Robert Fitzhamon]] |
Fersiwn yn ôl 17:43, 7 Mawrth 2013
Arglwydd Normanaidd a gymerodd feddiant o deyrnas Morgannwg oedd Robert Fitzhamon neu Robert Fitz Hammo (bu farw Mawrth 1107).
Roedd Fitzhamon yn berthynas i Gwilym Goncwerwr. Ceir y cofnod cyntaf amdano fel un o gefnogwyr Gwilym II, brenin Lloegr yn ystod gwrthryfel 1088. Wedi gorchfygu'r gwrthryfel, gwobrwywyd ef a thiriogaethau eang yn Swydd Gaerloyw.
Nid oes sicrwydd sut y cafodd feddiant ar deyrnas Morgannwg; yn ôl rhai hanesion, galwodd Iestyn ap Gwrgant, brenin Morgannwg, ef i mewn i'w gynorthwyo yn erbyn Einion ap Collwyn, neu yn ôl stori arall, yn erbyn Rhys ap Tewdwr. Manteisiodd Robert ar hyn i gipio iseldiroedd Morgannwg, rywbryd rhwng 1089 a 1094. Castell Caerdydd oedd ei brif gaer.
Ail-sefydlodd Abaty Tewkesbury yn 1092. Cymerwyd ef yn garcharor yn Normandi ger Bayeux yn 1105. Llwyddodd y brenin Harri I i'w ryddhau, ac aethant ymlaen i warchae ar Falaise. Clwyfwyd Fitzhamon yn ei ben yn ddifrifol yno, a bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach.