Llywelyn Fardd II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
engado gl:Llywelyn Fardd II |
→Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II', yn, ''Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'. |
*Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II', yn, ''Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'. |
||
{{Beirdd y Tywysogion}} |
{{Beirdd y Tywysogion}} |
Fersiwn yn ôl 17:17, 7 Mawrth 2013
- Gweler hefyd Llywelyn Fardd I.
Yr oedd Llywelyn Fardd II (fl. tua 1215-1280) yn Ogynfardd a gysylltir â Phowys a Gwynedd. Fe'i gelwir yn 'Llywelyn Fardd II' gan ysgolheigion am fod o leiaf dau o Feirdd y Tywysogion yn dwyn yr enw Llywelyn Fardd (gweler hefyd Llywelyn Fardd I).
Mae ansicrwydd ynglŷn ag awduraeth rhai o'r cerddi a dadogir ar 'Lywelyn Fardd' yn y llawysgrifau, ond mae'r gwahaniaeth rhwng dyddiadau'r cerddi yn dangos fod pedair cerdd i'w dadogi'n weddol ddiogel ar Lywelyn Fardd II. Mae tystiolaeth y cerddi hynny yn awgrymu iddo fwynhau gyrfa hir o tua 1215 hyd tua 1280. Ni wyddys dim amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'r rhain yn dangos cysylltiad cryf â de Powys (Powys Wenwynwyn).
Cedwir testunau'r pedair cerdd yn Llawysgrif Hendregadredd, a cheir testun un o'r cerddi yn Llyfr Coch Hergest yn ogystal.
Yn ogystal â dwy awdl i Dduw, ceir awdlau moliant i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys Wenwynwyn ac i Lywelyn Fawr, tywysog Gwynedd. Mae ei gerdd i Lywelyn yn awgrymu ei fod yn ceisio lle yn ei lys fel bardd, ond gan na chafwyd cerdd arall iddo mae'n ansicr a fu'n llwyddianus yn ei gais neu beidio. Yn ei gerdd i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, ymddengys fod y bardd yn dathlu'r ffaith fod ei noddwr wedi derbyn ei ran o'i etifeddiaeth ar farwolaeth ei dad, Gruffudd ap Gwenwynwyn, pan ranwyd Powys Wenwynwyn yn fân arglwyddiaethau.
Llyfryddiaeth
- Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.