Dál Riata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: ca:Dál Riata |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Cred rhai ysgolheigion fod Dál Riata wedi adennill ei nerth dan [[Áed Find]] (736-778), ond mae eraill yn amau hyn. Yn draddodiadol unwyd Dál Riata a theyrnas y Pictiaid gan [[Cináed mac Ailpín]] (Kenneth mac Alpin, 800-858). |
Cred rhai ysgolheigion fod Dál Riata wedi adennill ei nerth dan [[Áed Find]] (736-778), ond mae eraill yn amau hyn. Yn draddodiadol unwyd Dál Riata a theyrnas y Pictiaid gan [[Cináed mac Ailpín]] (Kenneth mac Alpin, 800-858). |
||
{{Hen Ogledd}} |
{{Hen Ogledd}} |
Fersiwn yn ôl 17:05, 7 Mawrth 2013
Teyrnas Gaeleg ei hiaith ar arfodir gorllewinol yr Alban oedd Dál Riata, hefyd Dalriada neu Dalriata. Roedd ei thiriogaeth yn yr ardaloedd sydd nawr yn Argyll a Bute, a Lochaber yn yr Alban, a Swydd Antrim yng ngogledd Iwerddon.
Y farn draddodiadol oedd fod Dál Riata wedi ei sefyldu gan ymfudwyr o Iwerddon, ond mae cryn amheuaeth am hyn bellach, yn enwedig o ystyried y cofnod archaeolegol. Cyfeirir ar drigolion Dál Riata yn aml fel y Scotti yn Lladin.
Cyrhaeddodd y deyrnas ei huchafbwynt dan Áedán mac Gabráin, ei brenin rhwng 574 a 608, ond gorchfygwyd ef ym Mrwydr Degsastan yn 603 gan Æthelfrith, brenin Northumbria. Gorchfygwyd Dyfnwal Frych (Domnall Brecc), a ddaeth yn frenin tua 629, mewn brwydrau yn Iwerddon, cyn ei orchfygu a'i ladd gan fyddin teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn 642. Daeth y deyrnas dan reolaeth Northumbria, yna dan reolaeth y Pictiaid.
Cred rhai ysgolheigion fod Dál Riata wedi adennill ei nerth dan Áed Find (736-778), ond mae eraill yn amau hyn. Yn draddodiadol unwyd Dál Riata a theyrnas y Pictiaid gan Cináed mac Ailpín (Kenneth mac Alpin, 800-858).