Ysbaddaden Bencawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
MystBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: de:Ysbaddaden |
→Llyfryddiaeth: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), ''Culhwch ac Olwen'' (Caerdydd, 1988) |
*Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), ''Culhwch ac Olwen'' (Caerdydd, 1988) |
||
[[Categori:Mytholeg Gymreig]] |
[[Categori:Mytholeg Gymreig]] |
Fersiwn yn ôl 17:02, 7 Mawrth 2013
Cawr chwedlonol yw Ysbaddaden Bencawr ("Ysbaddaden Pennaeth y Cewri"); hefyd Ysbyddaden Bencawr. Mae'n un o brif gymeriadau'r chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen. Merch Ysbaddaden yw Olwen. Mae Culhwch, arwr y chwedl, wedi ei dynghedu gan ei lysfam i garu ac i ennill llaw Olwen yn unig. Ond os bydd Culhwch yn priodi Olwen bydd Ysbaddaden yn marw. Mae pob arwr arall a geisiai Olwen wedi methu neu farw yn yr ymgais.
Mae'r cawr yn gwrthod cais Culhwch am law Olwen deirgwaith gan daflu gwaywffon wenwynig ato bob tro. Y trydydd tro mae Culhwch yn dal y waywffon a'i bwrw yn ôl gan daro Ysbaddaden yn ei lygad. Mae Ysbaddaden yn ildio i gais Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawnu deugain tasg amhosibl (yr Anoethau) cyn iddo gael priodi Olwen. Ar ôl cyfres o anturiaethau gyda chymorth arwyr llys Arthur mae Culhwch yn cyflawni'r Anoethau. Mae Goreu fab Custennin, a guddiwyd mewn cist rhag iddo gael ei ladd gan Ysbaddaden fel ei frodyr, yn torri pen y cawr ac mae Culhwch o'r diwedd yn priodi Olwen.
Llyfryddiaeth
- Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988)